Mi fydd yr Aelod Seneddol, Jared O’Mara, yn dychwelyd i’w waith “ar unwaith”, wedi iddo gael ei wahardd o’r Blaid Lafur fis Hydref diwethaf am wneud sylwadau sarhaus ar-lein.

Cafodd Jared O’Mara ei ethol yn Aelod Seneddol dros Sheffiled Hallam fis Mehefin y llynedd, gan ddisodli’r cyn-Ddirprwy Prif Weinidog, Nick Clegg.

Ond erbyn mis Hydref, bu raid iddo ymddiswyddo fel aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Merched, ynghyd â chael ei wahardd o’r Blaid Lafur, yn dilyn honiadau ei fod wedi gwneud sylwadau sarhaus yn erbyn hoywon a merched ar-lein dros ddeng mlynedd cyn dod yn Aelod Seneddol.

Ym mis Rhagfyr hefyd, fe gyhoeddodd Jared O’Mara, sy’n dioddef o’r cyflwr Parlys yr Ymennydd, ei fod yn “torri’n ôl” ar ei waith fel Aelod Seneddol yn dilyn cyngor gan ei ddoctor.

Yn “falch” o  ddychwelyd

“Dw i’n falch o fod yn gallu dychwelyd at fy ngwaith,” meddai mewn datganiad heddiw.

“Roeddwn i’n hynod falch o allu cael fy ethol yn Aelod Seneddol dros Sheffield Hallam a dw i bellach yn hapus i allu symud ymlaen i gynrychioli fy etholwyr.

Mae cofnodion Hansard yn San Steffan yn dangos bod Jared O’Mara heb bleidleisio yn siambr Tŷ’r Cyffredin ers mis Hydref.