Mae’r cyfryngau yn cael eu gyrru gan y dde wleidyddol, ac mae angen i bobol gwestiynu yr hyn maen nhw’n ei weld a’i glywed ar y newyddion trwy’r amser, meddai Aleida Guevara.

Mae’n cyfeirio yn arbennig at y sylw sydd wedi bod i America Ladin yn y newyddion yn ddiweddar, a’r ffordd y mae hi’n honni y mae America yn gyrru’r agenda.

A hithau’n 50 mlynedd i’r diwrnod yfory (Tachwedd 9) ers i’w thad, Ernesto ‘Che’ Guevara, gael ei saethu gan y CIA yn Bolifia, mae’r ferch a oedd yn chwe blwydd oed ar y pryd yn benderfynol o barhau â chenhadaeth sosialaidd nad oes ganddi ond brith gof ohono.

“Mae angen i ni gyd holi a meddwl am yr hyn ydan ni’n ei weld a’i glywed ar y cyfryngau,” meddai. “Mae angen i ni fod yn effro i’r posibilrwydd ein bod ni’n gallu cael ein twyllo.

“Mae’n weddol gyffredin i chi weld lluniau o ymladd ar y strydoedd, o derfysgoedd yng ngwledydd America Ladin, ond does yna neb yn holi pwy sy’n achosi’r terfysg. Mewn anwybodaeth, mae’n bosib fod pobol yn y rhan yma o’r byd (y Gorllewin) yn derbyn y sbin sy’n cael ei roi…

“Ond, os y byddech chi’n deall y cefndir, yn adnabod yr iwnifforms yn y lluniau, mi fyddech chi’n cael darlun gwahanol iawn o’r hyn sy’n digwydd… mae’n rhaid holi cwestiynau. Mae’n bwysicach nag erioed.”

Eto, wrth awgrymu ei bod yn son am ffenomen ‘fake news’, mae’n osgoi enwi Donald Trump unwaith yn ei haraith yn Neuadd y Dref, Dinbych.

Mae Aleida Guevara ar daith o wledydd Prydain yr wythnos hon, yn ymweld â Llundain, Belffast, Dinbych, Sheffield, Manceinion a Glasgow.