Wrth edrych yn ôl ar ddau ddegawd ers y refferendwm datganoli mae cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn hyderus fod y Cynulliad “wedi’i sefydlu’n gadarn.”

Er hyn, mae’n feirniadol o’r cynnydd sydd wedi’i gyflawni o ran y gwelliannau i wasanaethau cymdeithasol.

“Y cyflawniad gorau yw ei fod wedi cael ei dderbyn gan bawb a hyd yn oed y Ceidwadwyr yn ei gefnogi. Mae wedi’i sefydlu’n dda ac yn rhan annatod o ddemocratiaeth Cymru,” meddai Ron Davies wrth sôn am y Cynulliad.

“O ran yr elfen o welliannau cymdeithasol, dw i’n difaru dweud fod y stori yn siomedig. Dyw e ddim wedi gwneud y cynnydd y byddwn i eisiau ei weld mewn nifer o feysydd,” meddai wrth golwg360.

Economi, addysg, iechyd…

Dywedodd fod angen gwella’r economi a chyflogadwyedd gan ddweud – “dyw’r economi braidd yn well nag oedd hi ugain mlynedd yn ôl,” a bod hefyd angen gwella safonau addysg.

O ran y gwasanaeth iechyd, dywedodd fod “amseroedd aros triniaeth yn hirach nag erioed,” ac ychwanegodd fod angen gwella gwasanaethau cynllunio a thai yng Nghymru.

“Y bwriad oedd darparu mecanwaith i yrru gwelliannau cymdeithasol yn eu blaen,” meddai gan gyfeirio at y broses o sefydlu’r Cynulliad.

Ond dywedodd ei fod yn “siomedig” nad oes “naratif argyhoeddedig” am “syniadau radical am welliannau.”

“Ar un llaw mae’n gyrhaeddiad mawr ei fod yno [y Cynulliad] ac wedi’i sefydlu’n dda, ond ar y llaw arall mae siom nad yw wedi dod â gwelliannau cymdeithasol.”