Dafydd Wigley (Llun: Plaid Cymru)
Ugain mlynedd yn ôl fe gafodd canlyniadau terfynol refferendwm datganoli Cymru eu cyhoeddi o lwyfan Coleg Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd.

Tri gwleidydd sy’n cofio’r noson yn iawn yw Ron Davies (Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd), Dafydd Wigley (Arweinydd Plaid Cymru) a Peter Hain (AS Llafur ac ymgyrchydd ‘Ie dros Gymru’).

“Mi oeddem ni i gyd ar bigau’r drain, ac roedd hi’n ymddangos hanner ffordd drwy’r noson nad oedd dim gobaith o gwbwl o ennill,” meddai Dafydd Wigley wrth golwg360.

“Ond pan ddaeth y cyhoeddiad terfynol… roedd hi’n anodd iawn credu ein bod wedi achub y peth pan oedd hi’n ymddangos ein bod ni wedi colli mor ddrwg. Roedd hi’n rhyddhad aruthrol,” meddai.

Trwch blewyn yn unig oedd ynddi gyda 50.3% o blaid sefydlu Cynulliad Cenedlaethol i Gymru.

Peter Hain – ‘Ymgyrch anodd’

Un o uchafbwyntiau Peter Hain a oedd yn Aelod Seneddol i Gastell-nedd ar y pryd oedd clywed canlyniad ei etholaeth wnaeth bleidleisio o blaid datganoli.

“Mi wnaeth hynny godi fy nghalon, a phan ddaeth canlyniad Caerfyrddin wedyn, doeddwn i prin yn gallu credu’r peth.”

Ag yntau’n un o arweinwyr yr ymgyrch ‘Ie dros Gymru’ ar ran y Blaid Lafur esboniodd fod yr ymgyrch wedi bod yn anodd.

“Roedd yna rai ardaloedd o orllewin Cymru oedd â chefnogaeth mawr [i ddatganoli], ond roedd hi’n fwy anodd yn y cymoedd. Roedd pobol yn meddwl ei fod yn golygu annibyniaeth, ac roedden ni’n gorfod eu perswadio nhw mai nid dyna oedd e,” meddai.

Dywedodd ei fod “mor falch dros Gymru” oherwydd “byddai Cymru mewn lle gwael iawn os na fydden ni wedi llwyddo pan oedd yr Alban wedi gwneud wythnos ynghynt.”

Ron Davies – ‘Rhyddhad’

Dywedodd Ron Davies a oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd fod ganddo “deimlad yn ei galon,” y byddai Cymru yn pleidleisio o blaid datganoli.

“Er hyn ro’n i’n gwybod ei bod hi am fod yn anodd achos roedd y farn wedi’i rhannu hyd yn oed o fewn y Blaid Lafur ei hun,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n cofio’r oriau mân pan ddaeth hi’n amlwg ar ôl diwrnod anodd bod y canlyniadau’n raddol droi o’n plaid ni a’n bod ni’n mynd i ennill,” meddai.

“Roedd yna funud o ryddhad, a dw i’n cofio ei rhannu gyda chydweithwyr fel Dafydd Wigley a Richard Livsey (Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig)”.