Rhodri Morgan, ar ei ymddeoliad
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn gwahodd pobol Cymru i dalu eu teyrngedau personol eu hunain i gyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, a fu farw yn 77 oed ddydd Mercher, Mai 17.

Mae llyfrau cydymdeimlad bellach wedi’u hagor yn y Senedd ym Mae Caerdydd ac yn swyddfa’r Cynulliad ym Mae Colwyn.

Fel arwydd o barch, mae pob baner ar draws ystâd y Cynulliad wedi ei hanner-gostwng, a bydd Aelodau’r Cynulliad, staff ac ymwelwyr yn cymryd rhan mewn munud o dawelwch yn y Senedd am 12.30yp.

“Rwy’n drist iawn i glywed am farwolaeth Rhodri Morgan,” meddai Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad.

“Fel Prif Weinidog Cymru, bu cyfraniad Rhodri i’r broses o adeiladu ein cenedl a’n democratiaeth ifanc yn amhrisiadwy. Roedd yn ffigwr poblogaidd, agos at bobol Cymru, ac roedd yn benderfynol o angori’r sefydliad yn y meddylfryd cenedlaethol.

“Fe gofiaf sut y llywiodd drafodaethau polisi y Cabinet mewn modd gynhwysol fyddai’n adlewyrchu barn gwleidyddion y Senedd a chymunedau ar lawr gwlad fel ei gilydd… Byddwn bob amser yn ddiolchgar i Rhodri am ei arweinyddiaeth, ac fe’i gofiwn fel un o gewri gwleidyddiaeth Cymru.

Arweinydd y dyddiau cynnar

“Mi fydd Rhodri Morgan yn cael ei gofio am ei waith yn arwain Cymru yn y blynyddoedd cynnar, ac am roi gwleidyddiaeth Cymru ar droedle cadarn,” meddai Mark Williams AS, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

“Mewn cyfnod anodd i ddatganoli, fe adeiladodd Rhodri glymblaid i ddelifro addewid datganoli. Fe fydd yn cael ei gofio hefyd am fod yn arweinydd carismataidd oedd yn tynnu pobol i mewn. Mae yna barch ac edmygedd mawr iddo.”

Cawr y Gymru ddatganoledig  

“Roedd Rhodri Morgan yn gawr y Gymru ddatganoledig,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. “Fe gyflawnodd rol bwysig iawn yn sefydlogi’r Cynulliad Cenedlaethol yn ystod ei gyfnod ffurfiannol.

“Ac yntau’n Brif Weinidog, roedd ei atebion yn y siambr bob amser yn werth gwrando arnyn nhw, ac roedd ei wybodaeth eang o’i feysydd arbenigol yn golygu na chai neb byth y gorau arno.

“Yn wleidyddol, doedden ni ddim yn gweld lygad yn llygad, ond does dim dwywaith nad oedd parch mawr iddo ar draws y sbectrwm gwleidyddol.”

Sioc

“Fel pawb yn y blaid Lafur ac yn y mudiad undebau llafur yng Nghymru, mae aelodau UNSAIN mewn sioc, ac yn gofio’n annwyl am ddyn deche, cywir, clyfar, oedd yn siarad yn strêt ac yn angerddol,” meddai Margaret Thomas, Ysgrifennydd Rhanbarthol Unsain Cymru.

“Fe safodd lan dros Gymru ar adeg allweddol yn nyddiau cynnar datganoli, gan osod ffiniau a diffinio pwerau Cymru. Rydyn ni heddiw yn elwa o’r holl waith hwnnw.

“Fe lynodd wrth ei egwyddorion sosialaidd ar adeg anodd, mewn clymblaid a gyda gras.”