Llun: Heddlu Gogledd Cymru
Mae Jeremy Corbyn wedi rhoi addewid y bydd ei blaid yn hyfforddi 10,000 o blismyn newydd yng Nghymru a Lloegr os fyddan nhw’n dod i rym yn dilyn etholiad cyffredinol Mehefin 8.

Wrth siarad yn Southampton heddiw bu’r arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, yn ymosod ar doriadau’r Ceidwadwyr i heddluoedd yng Nghymru a Lloegr gan roi  ymrwymiad i wario £300 miliwn y flwyddyn ar y cynllun hyfforddi.

Yng Nghymru mae’n debyg y bydd o leiaf 853 o swyddogion yr heddlu newydd yn cael eu cyflogi sef un am bob ward etholiadol yn y wlad.

Mae’r blaid yn gobeithio ariannu’r cynllun trwy wrthdroi toriadau’r Ceidwadwyr i’r Dreth ar Enillion Cyfalaf (CGT).

Ond mae’r Gweinidog Plismona, Brandon Lewis wedi disgrifio’r cynllun fel un “ffôl” arall gan Jeremy Corbyn gan ychwanegu “nid yw’n medru talu amdano oherwydd nid yw ei symiau yn gwneud synnwyr ac mae wedi gwario’r arian yn barod mewn tair ffordd arall.”

Diane Abbott

Yn y cyfamser mae Jeremy Corbyn wedi amddiffyn ysgrifennydd cartref cysgodol y blaid, Diane Abbott, ar ôl iddi ddrysu ynglŷn â chost y cynllun yn ystod cyfweliad radio.

Roedd hi wedi crybwyll nifer o ffigurau wrth drafod y polisi ond dywedodd Jeremy Corbyn y byddai’n costio £300 miliwn, gan fynnu nad oedd camgymeriad Diane Abbott wedi achosi “embaras.”

“Sefyll fyny dros Gymru”

“Er gwaethaf eu haddewidion i amddiffyn cymunedau, mae’r Ceidwadwyr yn San Steffan wedi cwtogi niferoedd plismyn yng Nghymru. Mae eu hymdriniaeth anystyriol wedi peryglu cymunedau Cymreig,” meddai llefarydd Llafur ar Gymru, Christina Rees.

“Mi fydd Llafur yn sefyll fyny dros Gymru ac yn lleihau troseddu trwy gynyddu nifer y plismyn yn y gymuned, gydag arian pellach ar gyfer plismon am bob ward etholiadol.”

Datganoli plismona”

Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd, Liz Saville Roberts, yn dadlau mai trosglwyddo’r cyfrifoldeb dros blismona i Lywodraeth Cymru  yw’r flaenoriaeth yn hytrach na pholisïau “un ateb i bawb.”

“Os yw’r Blaid Lafur o ddifrif am gefnogi ein heddluoedd a chadw Cymru’n ddiogel, ni fyddent wedi pleidleisio gyda’r Torïaid i gadw cyfrifoldeb dros blismona Cymru yn nwylo San Steffan,” meddai Aelod Seneddol Plaid Cymru.

Symiau ffansïol”

“Mae Llafur wedi gwario’r nifer yma deg gwaith yn barod,” meddai’r Arglwydd Mike German ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol.

“Maen nhw wedi ymrwymo i brosiectau gwario trwy wrthdroi toriadau’r Torïaid i’r Dreth ar Enillion Cyfalaf sawl gwaith. Mae’n gwneud i chi holi ydyn nhw wedi dod o hyd i’r pot o aur ar ddiwedd yr enfys?

“Beth rydyn ni ei angen yw cynigion polisïau cadarn a fydd yn rhoi plismyn yn ôl ar y strydoedd, nid rhyw symiau ffansïol sydd yn cael eu cynnig gan Lafur.”