Tim Farron, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol (Llun LDs West Berkshire CCA 2.0)
Ar drothwy 20 mlwyddiant buddugoliaeth hanesyddol Tony Blair, mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn apelio am gefnogaeth y rheini a bleidleisiodd i Lafur ar 1 Mai 1997.

Gan gyfeirio at gân ymgyrch Llafur yn etholiad 1997, dywed Tim Farron:

“Fy neges ar drothwy 20 mlwyddiant y fuddugoliaeth honno yw ‘Things Can Only Get Better’ – ond y tro hwn gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol. Cefnogwch ni a newidiwch ddyfodol Prydain.

“Mae Llafur wedi dod yn rhy wan, ac yn rhy ranedig, i sefyll dros y rheini sydd mewn mwyaf o angen.

“Mae’r etholiad hwn yn gyfle i newid cyfeiriad ein gwlad, a dylai’r bobl hynny a roddodd groes ym mlwch Llafur 20 mlynedd yn ôl bleidleisio i’r Democratiaid Rhyddfrydol.”