Douglas Carswell (Llun Wikipedia Steve Punter CCA 2.0)
Mae Aelod Seneddol a adawodd y Ceidwadwyr er mwyn troi at UKIP, wedi dweud na fydd yn sefyll yn yr etholiad cyffredinol brys ar Fehefin 8.

Yn ol Douglas Carwell, AS Clacton, fydd o ddim yn rhoi ei enw ymlaen i ymladd eto am y sedd.

Yn hytrach, meddai, fe fydd yn cefnogi pwy bynnag fydd yn cael ei ddewis yn ymgeisydd ar ran y Toriaid.