Pan sefydlodd y newyddiadurwr Arthur Griffith y blaid Cumann na nGaedheal (Plaid y Gwyddel) yn 1902, ymhlith ei pholisïau pendant yr oedd sefydlu Cynulliad Cenedlaethol i Iwerddon dan y teitl ‘Sinn Féin’ (ni ein hunain).

Ar Dachwedd 28, 1905, mae Arthur Griffith yn cyflwyno’r polisi yn swyddogol, a dyna’r dyddiad sy’n cael ei bennu bellach fel dyddiad sefydlu cymdeithas Sinn Féin, wedi i enw’r polisi ddod yn enw ar y blaid.

Wrth ddadlau ei achos, roedd Arthur Griffith yn mynnu fod Deddf Uno Prydain Fawr ac Iwerddon yn 1800 yn “anghyfreithlon” a bod, o ganlyniad, y frenhiniaeth ddeuol oedd yn bodoli dan Senedd Grattan, a Chyfansoddiad 1782, felly yn dal mewn grym.

Roedd Arthur Griffith wedi dwyn tipyn o ysbrydoliaeth ar gyfer ei weledigaeth ar gyfer Iwerddon o’r modd y torrodd Hwngari yn rhydd o gysgod Ymherodraeth Awstria yn 1867, gan arwain at sefydlu Ymherodraeth Awstria-Hwngari. Er nad oedd Arthur Griffith yn frenhinwr, roedd yn gweld patrwm posib ar gyfer ffurfio perthynas Anglo-Wyddelig – ond roedd pobol fel Michael Collins a Kevin O’Higgins yn gwrthwynebu hyn yn gryf.

Yn 1914, fe ymunodd Arthur Griffith â’r Gwirfoddolwyr. Er na chymrodd ef ei hun ran yng Ngwrthryfel y Pasg – ar sail ei wrthwynebiad i godi gwn tros yr achos – roedd nifer o’i gyd-aelodau yn weithredol iawn yn nigwyddiadau Ebrill 1916.

Yn 1917 y daeth gweriniaethwyr at ei gilydd dan y faner Sinn Féin, ac yn eu cynhadledd (Ard Fheis) y flwyddyn honno maen nhw’n ymrwymo’n ffurfiol am y tro cynta’ i sefydlu Gweriniaeth Iwerddon.

Yn etholiad cyffredinol 1918, mae’r blaid yn ennill 73 allan o 105 o seddi’r wlad, ac ym mis Ionawr 1919 mae’r Aelodau Seneddol yn ymgynnull yn Nulyn yn hytrach na chymryd eu lle yn San Steffan, gan alw eu hunain ‘Dàil Eireann’ (senedd Iwerddon).

Newid mawr yn 1970

Fe gafodd y blaid Sinn Féin yn ei ffurf bresennol ei ffurfio yn 1970, a hynny yn dilyn rhaniad.

Fe aeth un adain yn ei blaid i sefydlu Plaid Gweithwyr Iwerddon, y blaid sy’n cael ei chysylltu’n hanesyddol gyda’r Provisional IRA.

Gerry Adams ydi Llywydd Sinn Féin ers 1983, ac mae wedi’i gweld yn tyfu i fod y blaid genedlaetholgar fwya’ yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon; hi ydi’r blaid sy’n dal pedair o 18 sedd Gogledd Iwerddon yn Senedd San Steffan; yn ogystal â bod y drydedd blaid fwya’ yn yr Oireachtas, senedd Gweriniaeth Iwerddon.

Y gyfres o erthyglau

Gwleidydd y slymiau yn hanu o deulu bonedd yn Eryri

“Teimladau cymysg” Sinn Féin heddiw at Arthur Griffith 

Hen-hen-daid Arthur Griffith yn rhoi lloches i’r Morafiaid