David Rowlands, AC UKIP
Mae Aelod Cynulliad UKIP wedi awgrymu’n gryf fod yr ymgyrch o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi dweud celwydd cyn y refferendwm ym mis Mehefin y llynedd.
Mae’n ymddangos bod David Rowlands, sy’n cynrychioli ardal De Ddwyrain Cymru mewn sedd ranbarthol, wedi gwneud y cyfaddefiad yn ystod dadl ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth.
Mewn araith, dywedodd “nad oedd y celwyddau oedd wedi ein tynnu ni allan o’r Undeb Ewropeaidd yn arwyddocaol o’u cymharu â’r celwyddau oedd wedi mynd â ni i mewn i’r Undeb Ewropeaidd” yn y 1970au.
Ymatebodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Simon Thomas trwy ddweud y “byddan nhw’n dweud unrhyw beth er mwyn ennill y ddadl, ac r’yn ni newydd glywed hynny o geg yr ymgyrch ei hun”.
Pa gelwyddau?
Wrth ymhelaethu, cyfeiriodd David Rowlands at ystod o ‘gelwyddau’ yr ymgyrch o blaid aros yn y gorffennol wrth gyfeirio at sofraniaeth, colli tiroedd pysgota a’r Ewro.
“Dw i’n ddigon ffodus i fod yn ddigon hen i fod wedi clywed yr addewidion a aeth â ni i mewn i’r Undeb Ewropeaidd.
“A galla i’ch sicrhau chi, roedd y celwyddau a aeth â ni i mewn i’r Undeb Ewropeaidd yn fwy o gelwyddau na’r celwyddau hynny sy’n ein tynnu ni allan.”