Mae Aelod Seneddol Pontypridd yn dal i gael pobol yn bygwth ei ladd, ers iddo sefyll yn erbyn Jeremy Corbyn am arweinyddiaeth y blaid Lafur yn gynharach eleni.

Me Owen Smith yn dweud wrth bapur newydd The Guardian heddiw iddo dderbyn “nifer fawr” o fygythiadau, ond nad yw’n difaru herio arweinydd Llafur.

“Roedd yn rhaid galw’r heddlu i syrjeri yr o’n i’n ei chynnal ddydd Gwener diwetha’ oherwydd bygythiadau,” meddai Owen Smith.

“Mae rhai o’r bygythiadau i wneud â’r her i arweinyddiaeth Jeremy Corbyn, ond mae rhai yn ymwneud â datganiadau gwleidyddol eraill dw i wedi’u gwneud.

Colli i’r cyfryngau cymdeithasol 

“Rhan fawr o’r peth ydi’r cyfryngau cymdeithasol,” meddai wedyn, “a’r modd yr oedd cefnogwyr Jeremy yn weithgar iawn, iawn, ac yn ymosodol ar y we.”

Ers yr her i’w arweinyddiaeth, mae Owen Smith o’r farn bod Jeremy Corbyn wedi perfformio’n well yn sesiynau Holi’r Prif Weinidog yn San Steffan.

“Mae e wedi bod yn dipyn mwy siarp yn PMQs,” meddai. “Mae’n fwy fforensig wrth fynd ar ôl ei themâu, ac mae hynny yn codi calon rhywun.

“Ond mae unrhyw un sy’n cymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth fodern yn gwybod na allwch chi dynnu’ch llygad oddi ar y bêl. Mae pleidiau gwleidyddol yn gallu diflannu… mae’n hollol bosib.

“Ac, fel ddwedes i dros yr ha’, mae pleidiau’n cymryd cenedlaethau i gael eu meithrin a’u tyfu, ond yn gallu diflannu dros nos.”

Ar y fainc ôl

Mae Owen Smith wedi gwrthod dod oddi ar y fainc ôl ers iddo ymddiswyddo o’r wrthblaid cyn y ras am arweinyddiaeth y blaid Lafur.

“Rwy’n dal yn rhwystredig ac yn siomedig na wnes i ennill yr etholiad i fod yn arweinydd,” meddai Owen Smith, “ac rwy’n siomedig fod y Blaid Lafur mor isel yn y pôl.

“Rwy’n gobeithio y galla’ i barhau i wneud fy rhan.”