Tony Blair
Mae cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Tony Blair, wedi dweud ei bod hi’n bosib na fydd Brexit yn digwydd wedi’r cwbwl.

Mewn cyfweliad â The New Statesman, dywedodd y gallai’r broses ddod i stop os bydd pobol yn gweld yr hyn mae Brexit yn ei olygu ac yn newid eu meddyliau.

Mae Tony Blair wedi dweud ei fod am i wledydd Prydain “gadw eu hopsiynau’n agored” ynghylch Brexit.

“Gallai gael ei stopio os bydd pobol Prydain yn penderfynu hynny, ar ôl gweld beth mae’n ei olygu…” meddai wrth y cylchgrawn.

“Gall hynny ddigwydd mewn dwy ffordd. Dw i ddim yn dweud y bydd [yn stopio], gyda llaw, ond gallai wneud. Dw i jyst yn dweud: tan i chi weld yr hyn mae’n ei olygu, sut ydych chi’n gwybod?”

Ychwanegodd na fyddai e ei hun wedi galw am refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd ond ei fod yn “faddeugar” o benderfyniad David Cameron.

Gwersi Trump a Brexit

Galwodd hefyd am i wersi gael eu dysgu o’r bleidlais Brexit ac o ethol Donald Trump yn Arlywydd America.

“Enillodd am fod pobol eisiau gweld newid,” meddai.

“Os ydych chi’n diystyru’r holl sylwadau a wnaeth Donald Trump ac rydych chi dim ond yn edrych ar y ddau blatfform, ar y materion sy’n ymwneud â diwylliant a hunaniaeth, dw i’n gallu gweld pam byddai Americanwyr, hyd yn oed y rhai yn y canol, a allai gael eu denu gan blatfform [Trump].

Fe wnaeth ymgyrch Gadael yr Undeb Ewropeaidd greu “peiriant diddorol iawn” y dylid ei ddysgu ohono, ychwanegodd.

Chwarae rôl y tu ôl i’r llenni

Yn y cyfweliad, dywedodd Tony Blair na fyddai’n gallu mynd yn ôl i wleidyddiaeth y rheng flaen am y byddai rhannau o’r cyfryngau yn “chwalu” y syniad.

Ond mae bwriad ganddo i chwarae rôl fawr y tu ôl i’r llenni yn llunio’r tirlun gwleidyddol am ei fod yn “gresynu” tuag at gyflwr presennol gwleidyddiaeth yn y byd Gorllewinol.

Dywedodd y byddai’n gweithio i adfywio’r “canol blaengar neu’r chwith canol”.

Disgrifiodd y Prif Weinidog, Theresa May, fel “person solet a synhwyrol” a gwadodd ei fod wedi galw arweinydd presennol Llafur, Jeremy Corbyn yn “wallgof”.

“Dydw i ddim yn meddwl ei fod yn wallgof. Dw i jyst yn meddwl ei fod yn berson ar yr ochr chwith pell o wleidyddiaeth ac mae wedi bod yn gyson ers y 35 mlynedd ddiwethaf yr wyf wedi ei adnabod, sy’n iawn.”