Mae Aelod Seneddol yng ngogledd Lloegr wedi cael ei ganmol gan arweinydd plaid Mebyon Kernow am wrthwynebu cynlluniau a allai weld Cernyw a Dyfnaint yn dod yn un etholaeth.

Yr wythnos ddiwetha’, fe gyflwynodd Steve Double welliant i’r Bil Etholaethau Seneddol er mwyn addasu’r ffordd y caiff ffiniau etholaethau eu newid.

Cafodd y mater ei drafod yn San Steffan ddydd Gwener diwetha’ ar ôl i Pat Glass, Aelod Seneddol Gorllewin Durham, gyflwyno deddfwriaeth a fyddai’n lleihau nifer yr aelodau seneddol o 650 i 600.

Ond mae gwelliant gan Steve Double, Aelod Seneddol Ceidwadol St Austell a Newquay, yn golygu na fydd hyn yn digwydd am y tro.

Cafodd y Bil ei dderbyn ar ail ddarlleniad o 253 o bleidleisiau i 37, ac fe fydd yn cael ei drafod ymhellach gan bwyllgor seneddol, gyda’r Ceidwadwyr yn benderfynol o fwrw ymlaen gyda’u cynlluniau gwreiddiol i leihau nifer yr etholaethau.

Rhaid newid y Ddeddf

Mae’r gwrthwynebiad gan Steve Double yn awgrymu na fydd rhwydd hynt i’r Ceidwadwyr – ynghyd â sawl aelod seneddol o Gernyw – gyflwyno’r ddeddf yn ei ffurf wreiddiol.

“Rwy’n falch o allu canmol Steve Double am wrthwynebu creu sedd seneddol Devonwall,” meddai Dick Cole o Mebyon Kernow.

“Rhaid ei ganmol am wrando ar bobol Cernyw ac am wneud yn glir ei fod e wedi gweithredu yn y fath fodd oherwydd mai dyma’r ‘unig ffordd’ a welai er mwyn ‘mynd i’r afael â mater ffin Cernyw a chadw ASau Cernyw yng Nghernyw’.”

Ond wrth ganmol Steve Double, mae Dick Cole y feirniadol o’i gyd-aelodau seneddol yng Nghernyw am iddyn nhw gefnogi’r cynlluniau i newid y ffiniau.

“Dim ond dau oedd yn bresennol ac fe bleidleision nhw yn erbyn y Bil,” meddai, gan honni fod un ohonyn nhw, Sheryll Murray, wedi cymryd rhan yn y ddadl a gwneud popeth o fewn ei gallu i danseilio dadleuon Steve Double.

“Yn 2010, addawodd Sheryll Murray y byddai hi’n “brwydro ymlaen ac ymlaen” er mwyn sicrhau bod y ffin yn cael ei gwarchod, ond mae’n ymddangos iddi wneud dro pedol syfrdanol.”