Mae iechyd yng Nghymru mewn sefyllfa drychinebus, wedi bod ers tro byd.

Yr wythnos hon, datgelwyd bod 74,976 o bobol yng Nghymru yn aros am flwyddyn neu ddwy am apwyntiad claf allanol. O ganlyniad, mae nod Llywodraeth Cymru na fyddai neb yn aros am apwyntiad allanol ar ddiwedd 2022 bellach yn edrych yn hollol chwerthinllyd.

Mae yna hefyd nod bod 95% o gleifion yn treulio llai na phedair awr yn yr adran damweiniau ac achosion brys. Fodd bynnag, 69.9% oedd y ffigwr hwn ym mis Ionawr. Yn yr un mis, arhosodd bron i 9,000 o bobl 12 awr neu fwy cyn cael triniaeth.

Yn y cyfamser, dim ond 48.9% o ‘alwadau coch’ i’r gwasanaeth ambiwlans gafodd eu hateb o fewn wyth munud.

Ac er bod hynny 9.4% yn uwch na’r mis blaenorol, roedd yn sylweddol is na’r targed o 65%.

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Roedden ni’n gwybod y byddai hyn yn heriol, ond roedden ni eisiau gweld ymdrech â ffocws gwirioneddol gan fyrddau iechyd.

“Rydym yn siomedig nad yw’r targed uchelgeisiol hwn, na chafodd ei osod yn Lloegr, wedi’i gyrraedd.”

Beth yw’r neges yn fan hyn felly? ‘O, dydan ni ddim wedi cyrraedd y targed ddaru ni osod, ond chwarae teg i ni am osod un o gwbl, wedi’r cwbl chafodd yna ddim targed ei osod yn Lloegr’. Ai dyma begwn uchelgais Llywodraeth Cymru?

Gawn ni plis roi diwedd ar y busnes yma o esgusodi methiannau yma yng Nghymru drwy weld bai, neu wneud cymariaethau dibwys â Lloegr? Mae’n syrffedus.

Mae’n ddigon syml, os oes yna broblemau mewn meysydd datganoledig yng Nghymru, mater i Lywodraeth Cymru yw hynny ac nid yw gwneud cymariaethau gyda Lloegr, nac unrhyw wlad arall o ran hynny, yn mynd i newid hynny.

Ac os yw Llywodraeth Cymru yn gosod targedau sydd ddim yn cael eu cyrraedd, yna naill ai fod yna rywbeth wedi mynd o’i le, neu roedd y targed yn un afrealistig yn y lle cyntaf.

Yr oll mae edrych am esgusodion dros y ffin yn ei wneud yw gwneud i Lywodraeth Cymru edrych braidd yn ddwl.

Betsi Cadwaladr mewn trafferth

Mae’n debyg mai’r bwrdd iechyd sydd yn y mwyaf o drafferth ar hyn o bryd yw Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd heb hyd yn oed brif weithredwr parhaol ar hyn o bryd.

Yr wythnos hon, rhybuddiodd adroddiad gan Adrian Compton am “broblemau dwfn” o fewn bwrdd arweinyddiaeth Betsi Cadwaladr. Rhybuddia Archwilydd Cyffredinol Cymru nad yw arweinyddiaeth y bwrdd iechyd yn gweithredu’n effeithiol.

Mae adroddiad Adrian Compton yn cwestiynu gallu arweinyddiaeth y bwrdd iechyd i “fynd i’r afael â nifer o heriau y mae’r sefydliad yn eu hwynebu”. Mae hefyd yn nodi bod aelodau annibynnol o’r bwrdd yn colli hyder yn y tîm gweithredol.

Aiff ymlaen i alw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ar frys er mwyn ceisio adfer y sefyllfa. A dwi’n ffyddiog y gwneith Llywodraeth Cymru gamu i’r adwy drwy osod targedau uchelgeisiol na fydd yn cael eu cyrraedd.

Ond o leiaf y byddan nhw wedi gosod targedau, yn byddan?