Mae’r Blaid Geidwadol wedi bod yn blaid gynyddol ranedig o dan arweinyddiaeth Boris Johnson.

Dim ond pythefnos sydd wedi bod ers iddo achub ei swydd gan ennill pleidlais o ddiffyg hyder.

Fodd bynnag, doedd hi ddim yn fuddugoliaeth gyfforddus o bell ffordd, gyda 148 o Aelodau Ceidwadol yn datgan diffyg hyder ynddo.

Fydd canlyniadau erchyll is-etholiadau Tiverton a Honiton, a Wakefield ddim ond yn dyfnu’r rhaniadau o fewn y blaid.

A phwy a ŵyr, pe bai pleidlais o ddiffyg hyder yn cael ei chynnal yfory, neu ymhen wythnos, a fyddai’r prif weinidog yn goroesi.

Beth am gymryd cip olwg ar ganlyniadau’r is-etholiadau…


Llwyddodd y Democratiaid Rhyddfrydol i gipio Tiverton and Honiton gan y Ceidwadwyr, gyda’u hymgeisydd Richard Foord yn gwrthdroi mwyafrif Torïaidd o fwy na 24,000 – gogwydd o 30%.

Dyma’r drydedd sedd mae’r blaid wedi’i chipio gan y Ceidwadwyr mewn ychydig dros flwyddyn, ar ôl buddugoliaethau yn Chesham ac Amersham a Gogledd Swydd Amwythig.

Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol 14 o Aelodau Seneddol erbyn hyn.

Dywedodd arweinydd y blaid, Syr Ed Davey, fod y fuddugoliaeth yn Tiverton a Honiton yn “ganlyniad gwych i’r Democratiaid Rhyddfrydol”, cyn galw ar Boris Johnson i ymddiswyddo.

“Hwn yw’r mwyafrif Torïaidd mwyaf sydd erioed wedi cael ei wrthdroi mewn is-etholiad yn hanes Prydain,” meddai.

“Rwy’n credu bod y bobol yn dweud bod yn rhaid i Boris Johnson fynd.”

Yn y cyfamser, enillodd Llafur yr isetholiad yn Wakefield – gan ail gipio sedd ers 87 mlynedd nes iddi droi yn las yn etholiad cyffredinol 2019.

Trechodd Simon Lightwood yr ymgeisydd Torïaidd Nadeem Ahmed o 4,925 o bleidleisiau, gan wrthdroi mwyafrif o 3,358.

Hon yw buddugoliaeth gyntaf Llafur mewn is-etholiad ers bron i ddeng mlynedd, pan wnaethon nhw gipio Corby gan y Ceidwadwyr ym mis Tachwedd 2012.

O ganlyniad, mae nifer yr Aelodau Seneddol Llafur yn Nhŷ’r Cyffredin wedi codi i 200.

Mae’r ddau ganlyniad yn golygu bod mwyafrif Boris Johnson yn Nhŷ’r Cyffredin wedi gostwng i 68.

Y Prif Weinidog yn addo “gwrando” ar bleidleiswyr

Wrth ymateb i’r canlyniadau, dywedodd Boris Johnson – sydd yn Rwanda ar gyfer cyfarfod penaethiaid llywodraethau’r Gymanwlad – ei fod am “wrando” ar bleidleiswyr.

Fodd bynnag, mynnodd nad yw’n bwriadu ymddiswyddo fel Prif Weinidog, gan addo “cario ymlaen”.

“Mae’n rhaid i mi wrando ar yr hyn y mae pobol yn ei ddweud, yn enwedig ynglŷn â’r anawsterau y mae pobol yn eu hwynebu gyda chostau byw,” meddai.

“Mae’n rhaid i ni gydnabod bod mwy y mae’n rhaid i ni ei wneud ac yn sicr fe wnawn ni hynny.”

Galwadau am “arweinyddiaeth newydd”

Fodd bynnag, mae sawl Ceidwadwr blaenllaw wedi colli amynedd gyda’r Prif Weinidog ac yn awyddus i weld newid yn yr arweinyddiaeth.

Mae cadeirydd y Blaid Geidwadol, Oliver Dowden, wedi ymddiswyddo gan ddweud bod cefnogwyr y blaid yn “gofidio” am ddigwyddiadau diweddar a’i fod yn “rhannu eu teimladau”.

Dywedodd ei fod yn gadael ei rôl oherwydd bod “angen i rywun gymryd cyfrifoldeb”.

Yn y cyfamser, mae Michael Howard, cyn-arweinydd y Blaid Geidwadol, wedi dweud wrth Radio 4’s World at One y dylai Boris Johnson ymddiswyddo.

“Byddai’r blaid, ac yn bwysicach y wlad, yn well ei byd o dan arweinyddiaeth newydd,” meddai.

“Dylai aelodau’r Cabinet ystyried eu safbwyntiau’n ofalus iawn.”

Aeth mor bell ag awgrymu “y bydd angen i bwyllgor 1922 gyfarfod a phenderfynu newid y rheolau fel y gallai etholiad arweinyddiaeth arall ddigwydd”.

Pethau’n mynd yn “fwy heriol” i Boris Johnson

Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn dweud bod pethau’n mynd yn “fwy heriol” i Boris Johnson yn sgil y canlyniadau.

“Mae gwleidyddiaeth yn ymwneud â chymryd cyfrifoldeb a phan fydd y pleidleiswyr yn anfon neges glir fel y gwnaethon nhw neithiwr, yna mae’n rhaid i bobol mewn llywodraeth gamu i’r adwy ac ateb y cwestiynau mae’r pleidleiswyr wedi’u gofyn iddyn nhw,” meddai wrth BBC Radio Wales.

“Bob dydd mae’r prif weinidog yn codi, fel unrhyw arweinydd, mae’n rhaid iddo edrych yn y drych a gofyn iddo’i hun, a yw’n gallu parhau i weithredu dros y wlad a’r bobol sydd wedi pleidleisio drosto?”

‘Ansefydlogrwydd’

Mae yna ddigon o Geidwadwyr yn parhau i fod yn ffyddlon i’r Prif Weinidog, er nad oes modd osgoi pa mor wael yw’r canlyniadau hyn.

Un o’r rhain yw David TC Davies, Dirprwy Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

“Yn amlwg, dydyn nhw ddim yn ganlyniadau da, yn enwedig yn Tiverton a Honiton,” meddai wrth raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.

“Mae llywodraethau yn colli is-etholiadau fel arfer, mae canran fawr o is-etholiadau yn cael eu colli (gan y blaid sydd mewn grym).

“Ond mae y rhain yn waeth na’r arfer, mae swing y bleidlais yn fawr.

“Beth alla i ddweud? Mae’n bwysig derbyn mewn system ddemocrataidd eich bod yn gallu ennill a cholli, a’r tro hwn rydyn ni wedi colli, mae hynny yn glir.”

Fodd bynnag, dyw David TC Davies ddim am weld y Prif Weinidog yn ymddiswyddo.

“Dw i wedi clywed yr awgrymiad y dylai Boris (Johnson) ymddiswyddo, a dw i ddim yn derbyn hynny,” meddai wedyn.

“Dw i’n credu mai elfen o’r broblem yw’r ffaith fod yna deimlad o ansefydlogrwydd trwy’r wlad ar hyn o bryd.

“Mae gennym ni newyddion drwg economaidd, chwyddiant, costau byw.

“Mae’r Llywodraeth yn gwneud ei orau i ddatrys y problemau, ond dydyn ni methu datrys yr holl bethau hynny.

“Y peth olaf y dylem ni wneud nawr yw creu mwy o ansefydlogrwydd trwy gael gwared ar ein prif weinidog.”