Mae’r ffaith y bydd perchnogion ail gartrefi yn derbyn mwy o gefnogaeth ariannol tuag at eu biliau ynni na phobol sydd â dim ond un cartref yn “anfoesol”.

Dyna farn y Cynghorydd Craig ab Iago sy’n gyfrifol am Dai ar Gabinet Cyngor Gwynedd.

Daw ei sylwadau wedi i’r Trysorlys gadarnhau y bydd pob tŷ unigol – gan gynnwys ail gartrefi – yn derbyn swm o £400 i liniaru effeithiau cynnydd mewn biliau trydan a nwy.

O ganlyniad, bydd perchnogion ail dai yn derbyn y disgownt ddwywaith.

Bydd tua 772,000 o aelwydydd sydd â dau gartref yng ngwledydd Prydain yn cael £800 ym mis Hydref, tra bo’r rheiny gydag ond un cartref yn derbyn £400.

Mae gan oddeutu 61,000 o bobol dri chartref yng ngwledydd Prydain, ac mi fyddan nhw yn derbyn cyfanswm o £1,200 tuag at eu costau ynni.

Mae’r Canghellor ei hun yn berchennog ar dri chartref, ond mae Rishi Sunak yn dweud y bydd yn rhoi unrhyw arian y mae’n ei dderbyn o’i gynllun i elusen.

‘Anfoesol’ 

Er ei fod yn disgrifio’r sefyllfa fel un “anfoesol”, mae Craig ab Iago yn credu mai dim ond un enghraifft o agwedd y Llywodraeth ydyw, gan bwyntio at rai o’r pethau ddigwyddodd yn ystod y pandemig.

“Mae’r Llywodraeth bob tro’n ffeindio ffordd i sicrhau bod arian cyhoeddus yn mynd i bocedi eu ffrindiau,” meddai wrth golwg360.

“Roedd yr un peth yn digwydd yn ystod Covid efo’r grantiau busnes, roedd rhai perchnogion ail dai yn hawlio £10,000 arnyn nhw fel busnesau.

“Mae’r sefyllfa gydag ail dai yn gwaethygu ac wedi bod yn gwaethygu ers yr 1970au.

“Ac er bod y Llywodraeth yng Nghaerdydd yn edrych i mewn iddo fo, rydan ni angen ateb rŵan.

“Dydyn ni ddim yn gallu disgwyl oherwydd mae yna rywbeth newydd yn codi bron yn fisol bellach.

“Mae yna dŷ drws nesaf i le mae Mam a Dad yn byw yn mynd am £400,000… £400,000 am fwthyn bach?!

“Dyw’r peth ddim yn gwneud synnwyr, allith ein pobol ifanc ni ddim fforddio £400,000.”

“Dydy o ddim yn deg,” meddai wedyn, wrth gyfeirio at y £400 y bydd perchnogion tai haf yn ei gael.

“Ti’n prynu ail dŷ ac wedyn ti’n cael handout gan y Llywodraeth.

“Pam allan nhw ddim rhoi cap ar brisiau ynni yn lle dosbarthu pres allan?

“Dwyt ti ddim angen cynhesu ail dŷ, nag wyt? Ond maen nhw dal yn cael yr un faint o bres am ail dŷ ac ydw i yn ei gael am fy nhŷ i.

“A dydy’r arian yna ddim yn mynd i gyffwrdd yr ochrau gan fod biliau wedi mynd i fyny gymaint.

“Mae o’n hollol anfoesol. Ond dyna ni, beth sydd ddim yn anfoesol y dyddiau yma?

“Enghraifft sydd wirioneddol yn fy ngwylltio i ydi’r £37bn ddaru ni wario ar track and trace.

“Pe bai ti’n gwario punt yr eiliad, mi fyddai’n cymryd 1,200 o flynyddoedd i wario hynny ac mae o i gyd jyst wedi mynd.

“Fe allai’r arian yna wedi cael ei wario i’n cadw ni gyd yn saff, a fyddai yna ddim problemau o gwbl.

“Chawson ni ddim hyn yn oed track and trace, ond mae’r arian yna wedi mynd i rywle.”