Mae pobol ifanc 16 ac 17 oed oedd yn cael pleidleisio am y tro cyntaf mewn etholiadau lleol heddiw (Mai 5) wedi mynegi siom nad oedd yna etholiad yn eu ward.

Yn ôl dadansoddiad y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol, nid oes etholiad ar gyfer 74 o’r seddi ar gynghorau lleol Cymru heddiw gan fod yr ymgeiswyr hynny wedi’u hethol yn ddiwrthwynebiad.

Yng Ngwynedd mae’r nifer o uchaf o gynghorwyr sydd wedi cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad (28), yna Sir Benfro gyda 19.

Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor heddiw tan 10yh mewn wardiau lle mae cystadleuaeth, a’r cyfrif yn dechrau fory (Mai 6).

‘Siomedig, â dweud y lleiaf’

Yn ôl disgyblion Chweched Dosbarth Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon roedd hi’n siomedig peidio cael defnyddio eu llais gan nad oedd cystadleuaeth am sedd Menai yn y dref.

“Ers y Nadolig, yn yr ysgol mae pawb wedi bod yn dweud wrthym ni gofrestru,” meddai Gruff Bebb, sy’n 17 oed ac yn ddisgybl yno, wrth golwg360.

“Dw i erioed wedi cael cyfle i bleidleisio yn yr etholiadau lleol na chyfranogi i wleidyddiaeth, ac yn y pwnc Gwleidyddiaeth [yn yr ysgol] mae yna lot o sôn am ba mor bwysig ydy cyfranogi.

“Wedyn fe wnaeth Mam ddweud wrthym ni mai un person sy’n trio so dydyn ni ddim yn cael pleidleisio.

“Mae o’n siom, roeddwn i’n edrych ymlaen at gael mynd a rhoi fy enw lawr a phleidleisio, cael llais, ond dw i ddim [yn cael].

“Mae o ychydig bach yn siomedig â dweud y lleiaf.”

Fel person ifanc, roedd Gruff Bebb wedi edrych ymlaen at bleidleisio gan fod “y penderfyniadau mae pobol yn eu gwneud yn ein cyngor ni yn mynd i gael canlyniadau pellgyrhaeddol yn ein hardal a ni sy’n mynd i fod yn byw yma am flynyddoedd i ddod”.

“Mae hi’n hollbwysig bod pobol oed ni yn cael llais a dylanwad ar yr hyn sy’n digwydd, a’r hyn sy’n mynd i gael effaith arnom ni yn y tymor hir.”

‘Dim cyfle i ddefnyddio’r hawl’

Pe bai etholiad wedi bod yn ward Menai, dyma fyddai’r tro cyntaf erioed i Awel Evans gael pleidleisio.

“Doeddwn i ddim yn 16 oed flwyddyn diwethaf pan wnaeth y cyfle i bleidleisio yn 16 oed gyrraedd, gan fy mod i’n 16 oed rŵan roeddwn i’n gweld o’n siomedig braidd fy mod i ddim yn cael y cyfle i ddefnyddio’r hawl newydd yma i bleidleisio mor ifanc,” meddai Awel Evans.

“Dw i’n meddwl bod hi’n bwysig bod pawb sydd o’r oedran yn cael eu llais yn cael ei gynrychioli ar lywodraeth – ar lefel cenedlaethol ac ar lefel leol hefyd.”

‘Teimlad da’

Ychwanegodd Megan Crew, a gafodd bleidleisio am y tro cyntaf heddiw gan fod etholiad yn ei ward hi, bod gan bobol ifanc “bersbectif mwy modern o’r byd a be rydyn ni eisiau i’n dyfodol ni edrych fel”.

“Roedd o’n teimlo’n dda i wybod fy mod i’n gallu helpu’r ardal, ond eto roedd o’n brofiad eithaf anodd achos chefais i ddim llawer o wybodaeth am y bobol oeddwn i’n mynd i bleidleisio drostyn nhw” meddai Megan Crew.

“Fe wnes i weld hynny’n eithaf annheg, ein bod ni ddim yn gwybod yn iawn pwy fydd yn ein cynrychioli ni.”