Mae ysgol gynradd ym Mangor wedi cwblhau taith gerdded noddedig er mwyn codi arian i apêl Wcráin.

Fe wnaeth holl ddisgyblion a staff Ysgol y Faenol, Bangor, gerdded o amgylch iard yr ysgol am chwarter awr bob dydd am gyfnod.

Mae hynny’n golygu bod pob un ohonyn nhw wedi cerdded pellter o 1,764 milltir rhyngddyn nhw – yr un pellter ag sydd rhwng Bangor a Kyiv, prifddinas Wcráin.

Ers dechrau’r daith, maen nhw wedi codi dros £2,500 tuag at Apêl Ddyngarol Wcráin, sy’n cael ei threfnu gan gorff DEC Cymru.

‘Awydd i helpu yn amlwg’

Ar gyfer cymal olaf y daith, fe wnaeth gwleidyddion Arfon yn y Senedd a San Steffan ymuno â disgyblion ysgol ar yr ysgol heddiw (dydd Gwener, Mawrth 18).

Dywed Hywel Williams, yr Aelod Seneddol yn San Steffan, ei fod yn “falch iawn” o allu ymuno â nhw wrth iddyn nhw gyflawni’r gamp aruthrol.

“Mae cynigion o gefnogaeth i deuluoedd Wcráin wedi dod i’r amlwg o bob cornel o’m hetholaeth ac roedd yn wych bod yn rhan o’r digwyddiad codi arian heddiw,” meddai.

“Mae’r awydd i helpu pobol Wcráin yn amlwg, a diolchaf i blant Ysgol y Faenol am chwarae eu rhan yn yr ymdrech ddyngarol enfawr.

“Mae llawer iawn o’m hetholwyr wedi gwneud gwaith anhygoel yn rhannu negeseuon o gefnogaeth i ffoaduriaid o’r Wcráin, trefnu digwyddiadau codi arian a chasglu cyflenwadau ar gyfer y rhai yr effeithiwyd arnynt gan y rhyfel.”

‘Dylid canmol yr haelioni’

Roedd Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd yr etholaeth, hefyd yn bresennol ar yr achlysur arbennig.

“Mae’n galonogol gweld pobol ifanc yn arbennig yn estyn llaw cyfeillgarwch i blant Wcráin, yn cymryd yr awenau, ac yn cyfrannu at yr ymdrech ddyngarol enfawr sydd ar y gweill ar hyn o bryd,” meddai.

“Dylid canmol haelioni fy etholwyr yn Arfon wrth gynnig cefnogaeth i’r rhai sy’n ffoi rhag erchyllterau y rhyfel yn Wcráin ac sy’n ceisio diogelwch ar y glannau hyn.

“Rhaid i ni atgoffa ein hunain yn barhaus o’r realiti a wynebir gan bobl sy’n ffoi rhag sefyllfaoedd annirnadwy o drais ac erledigaeth ac o’r rôl y gallwn ei chwarae trwy gynnig cefnogaeth ddyngarol a chroeso tosturiol.”

Mae modd i unrhyw un gyfrannu at y daith noddedig ar eu tudalen ar-lein.