Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru wedi annog Boris Johnson i gynyddu tâl salwch statudol “annigonol” y Deyrnas Unedig er mwyn atal lledaeniad yr amrywiolyn Omicron.

Dywedodd llefarydd y Blaid ar y Trysorlys, Ben Lake AS, wrth Brif Weinidog y Deyrnas Unedig na ddylai pobl orfod “dewis rhwng dilyn rheoliadau iechyd cyhoeddus, neu roi bwyd ar y bwrdd”.

Yn ystod y sesiwn olaf o Gwestiynau’r Prif Weinidog cyn y Nadolig, yn dilyn sawl sgandal a gwrthryfel Aelodau gan 100 o aelodau Torïaidd, fe ddywedodd AS Ceredigion wrth Johnson fod llawer o bobl yn wynebu realiti ansicr y gaeaf hwn.

Dywedodd nad yw llawer o bobl sy’n gorfod hunanynysu yn gymwys ar gyfer taliad hunanynysu Llywodraeth Cymru, neu ar gyfer Tâl Salwch Statudol Llywodraeth y Deyrnas Unedig oherwydd dydyn nhw ddim yn derbyn budd-daliadau neu oherwydd eu bod nhw’n ennill mwy na’r trothwy enillion.

Dywedodd Ben Lake fod “Cyflog salwch y Deyrnas Unedig ymhlith y lleiaf hael yn y byd datblygedig. Ar £96.35 yr wythnos yn unig, dim ond 20 y cant o’r cyflog cyfartalog y mae’n cyfateb iddo – o’i gymharu â 100 y cant yn yr Almaen a 90 y cant yn Ffrainc.

“Gyda’r amrywiolyn Omicron yn dod i’r amlwg, a nifer cynyddol o heintiau Covid, gofynnir i fwy a mwy o bobl hunanynysu neu aros gartref i ofalu am blant sy’n ynysu.

“Mae pobl yng Ngheredigion wedi cysylltu â mi sydd wedi cael eu heithrio rhag taliadau cymorth ynysu gan nad ydynt yn derbyn budd-daliadau neu’n uwch na’r trothwy enillion wythnosol.

“A wnaiff y Prif Weinidog weithredu ar frys i gynyddu tâl salwch statudol – sydd ar hyn o bryd yn £96.35 yr wythnos yn unig – fel nad oes gan bobl yn y sefyllfa hon ddewis rhwng dilyn rheoliadau iechyd cyhoeddus, neu roi bwyd ar y bwrdd?”

Fe ymatebodd Boris Johnson drwy ddweud “Rwy’n deall y trafferthion mae pobl yn profi’r gaeaf hwn ac byddwn yn sicrhau y bydd gan gynghorau arian ychwanegol i helpu delio â chaledi y gaeaf hwn.”

Ond ni wnaeth y Prif Weinidog roi sylw i’r mater o Dâl Salwch Statudol.

Wrth wneud sylw wedi’r sesiwn fe ddywedodd Ben Lake fod “darparu tâl salwch digonol yn rhywbeth sydd amlwg er budd iechyd y cyhoedd, ond mae hefyd er budd cyflogwyr, a byddai dwy ran o dair ohonynt yn cefnogi system gryfach. Mae’n siomedig felly bod y Prif Weinidog unwaith eto’n osgoi gwneud y penderfyniad cywir.”

Fe ddywedodd Plaid Cymru ar eu cyfrif Twitter: “Mae tâl salwch y Deyrnas Unedig yn dal i fod ymhlith yr isaf yn Ewrop – £96.35 yr wythnos.

“Mae miloedd yn cael eu gorfodi i ddewis rhwng ynysu neu roi bwyd ar y bwrdd Rhaid i Boris Johnson gynyddu tâl salwch ar frys.”

‘Colli ymddiriedaeth’

Yn ystod y sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog – yr olaf cyn y Nadolig – fe gyhuddwyd Boris Johnson o golli ymddiriedaeth ei ASau ei hun a’r awdurdod i arwain y wlad drwy argyfwng.

Dywedodd arweinydd yr wrthblaid, Keir Starmer, fod y prif weinidog “mor wan fel na fyddai mesur iechyd cyhoeddus hanfodol wedi mynd drwodd heb bleidleisiau Llafur neithiwr”.

Cyhuddodd Mr Johnson Syr Keir o ymroi i “drifia pleidiol”.

Nos Fawrth (Rhagfyr 15), fe wnaeth 100 o ASau Torïaidd bleidleisio yn erbyn cyflwyno pasys Covid yn Lloegr oherwydd pryderon y bydd yn niweidio rhyddid personol.

Ond dywedodd Starmer wrth y prif weinidog fod angen iddo “gael trefn ar ei dŷ” i sicrhau y byddai ASau Ceidwadol yn eu cefnogi, gan ychwanegu: “Bydd Llafur yn dilyn fy arweinyddiaeth ac yn rhoi’r genedl yn gyntaf bob amser”.

Ychwanegodd: “Allwn ni ddim mynd ymlaen gyda phrif weinidog sydd yn rhy wan i arwain.”

Gan gyfeirio at y straeon parhaus am bartïon Nadolig yn Downing Street y llynedd, cwestiynodd arweinydd y Blaid Lafur a oedd gan Mr Johnson yr “ymddiriedaeth a’r awdurdod i arwain y wlad hon,” gan ei gyhuddo o danseilio hyder y cyhoedd.

Nid yw Mr Johnson wedi diystyru galw’r Senedd yn ôl yn ystod gwyliau’r Nadolig os oes angen cyfyngiadau pellach i lesteirio lledaeniad yr amrywiolyn Omicron.

“Rhagrith” Boris Johnson sydd bwysicaf i’r cyhoedd, medd academydd yn Abertawe

Dr Sam Blaxland yn ymateb i helynt partïon yn Downing Street yn groes i gyfyngiadau Covid-19

Cyfyngiadau Covid: disgwyl i 70 o Geidwadwyr wrthwynebu cynlluniau Boris Johnson

Y Prif Weinidog yn wynebu gwrthryfel fwyaf ei arweinyddiaeth