Mae Virginia Crosbie wedi dweud wrth golwg360 ei bod yn benderfynol o ddod yn rhugl ei Chymraeg “er mwyn gallu bod yn llais nid yn unig i Fôn, ond i Gymru gyfan”.

Fe gafodd ei hethol yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros yr ynys yn etholiad cyffredinol Rhagfyr 2019, gan addo mynd ati i ddysgu siarad Cymraeg.

Wedi ei magu ym mhentref Tiptree yn Essex, yn ferch i Gymro, bu i Virginia Crosbie ymladd yn aflwyddiannus am sedd y Rhondda yn etholiad cyffredinol 2017.

Ac ers ei hethol yn AS Môn bu yn cael gwersi Cymraeg wyneb-i-wyneb yn Oriel Môn ger Llangefni ym misoedd cyntaf 2020, cyn i’r pandemig daro, a byth ers hynny mae hi wedi bod yn cael gwersi dros zoom.

Ym mis Gorffennaf eleni fe gafodd 95% mewn prawf llafar Lefel Mynediad Cymraeg i Oedolion, a bellach mae hi i’w chlywed yn siarad Cymraeg ar ei slot nos Wener ar orsaf radio Môn FM.

A’r cam nesaf yn ei thaith gyda’r iaith fydd treulio’r wythnos nesaf yn y ganolfan dysgu siarad Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn, ger pentref Llithfaen ym Mhen Llŷn.

“Mae yn rhaid i chi arwain trwy esiampl, os ydach chi yn Aelod Seneddol,” meddai Virginia Crosbie wrth golwg360.

“Felly’r peth cyntaf wnes i pan ges i fy ethol oedd ymrwymo i ddysgu siarad Cymraeg. Ac rydw i yn rhoi cynnig ar siarad yr iaith bob tro y mae cyfle yn codi…

“Hyd yn oed pan yr ydw i yn y siambr [yn San Steffan], fi ydy’r unig un sy’n galw Boris Johynson yn ‘Prif Weinidog’ [yn hytrach na ‘Prime Minister’], ac mae o wrth ei fodd!

“Mae o’n dod i’r stafell de ac yn dweud: ‘Rydw i wrth fy modd pan rwyt ti’n galw fi yn Brif Weinidog!’”

“Adborth anhygoel”

Mae Virginia Crosbie yn dweud ei bod “yn falch iawn” bod yr adroddiad blynyddol y mae hi newydd ei anfon at y 26,000 o gartrefi ym Môn, yn gwbl ddwyieithog.

“Mae’r adborth wedi bod yn anhygoel,” meddai.

“Mae pobol wrth eu boddau yn cael Aelod Seneddol sy’n cysylltu a chyfathrebu efo nhw.”

Bythefnos yn ôl fe gafodd Virginia Crosbie ei phenodi yn Ysgrifennydd Preifat Seneddol i Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart.

Ac mae yn dweud ei bod am ddefnyddio ei rôl yn Swyddfa Cymru i ddenu sylw i Gymru a’r Cymry ar lefel Brydeinig.

“Rydw i yn trefnu dathliad ar y chweched o Ragfyr yn Nhŷ Gwydir [sef lleoliad Swyddfa Cymru yn San Steffan], i ddathlu entrepeneuriaid benywaidd o Gymru.

“Rydw i wir eisiau dathlu’r pethau anhygoel sydd ganddo ni yng Nghymru.”