Yr Arglwydd David Lloyd-Jones, un o Farnwyr Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig, fydd Llywydd cyntaf Cyngor Cyfraith Cymru.

Fe wnaeth Cwnsler Cyffredinol Cymru, Mick Antoniw, gadarnhau’r penodiad mewn araith yng Nghynhadledd Cymru’r Gyfraith yng Nghaerdydd yr wythnos hon.

Mae Cyngor y Gyfraith yn cael ei sefydlu er mwyn hybu addysg, hyfforddiant cyfreithiol ac ymwybyddiaeth o gyfraith Cymru.

Bydd y corff hefyd yn cefnogi datblygiad economaidd a chynaliadwyedd y sector cyfreithiol yng Nghymru.

Fe wnaeth y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, comisiwn annibynnol a gafodd ei gadeirio gan yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, argymell sefydlu’r cyngor.

Yr Arglwydd Lloyd-Jones

Cafodd yr Arglwydd David Lloyd-Jones ei fagu ym Mhontypridd, mae’n medru’r Gymraeg, a daeth yn Farnwr y Goruchaf Lys ym mis Hydref 2017.

Cafodd ei benodi i’r Uchel Lys yn 2005, a bu’n gwasanaethu yn Farnwr Gweinyddol ar Gylchdaith Cymru ac yn Gadeirydd Pwyllgor Sefydlog yr Arglwydd Ganghellor ar yr Iaith Gymraeg rhwng 2008 a 2011.

Yn 2012, cafodd ei benodi yn Arglwydd Ustus Apêl, a bu’n Gadeirydd Comisiwn y Gyfraith rhwng 2012 a 2015.

Dywedodd yr Arglwydd Lloyd-Jones ei fod yn “falch iawn bod camau wedi’u cymryd i sefydlu Cyngor y Gyfraith, er mwyn dod â’r sector cyfreithiol ynghyd i helpu i lywio addysg a hyfforddiant cyfreithiol a dyfodol y proffesiynau cyfreithiol yng Nghymru a hyrwyddo’r corff o gyfreithiau Cymreig sy’n tyfu”.

Bydd pwyllgor gwaith Cyngor y Gyfraith yn ymgynnull ym mis Tachwedd, fel cam rhagarweiniol cyn dechrau ar eu gwaith ffurfiol.

“Pwy well?”

Wrth siarad yn y Gynhadledd, dywedodd Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Llywodraeth Cymru: “Bydd sicrhau bod Cyngor y Gyfraith yn bodloni ei amcanion uchelgeisiol yn galw am arweiniad.

“A phwy well i’w arwain na’r un y gwnaeth ei weledigaeth wreiddiol ar gyfer Sefydliad y Gyfraith i Gymru ysbrydoli Comisiwn Thomas i argymell sefydlu Comisiwn y Gyfraith?

“Ef hefyd wrth gwrs yw’r barnwr uchaf o Gymru sy’n eistedd ar hyn o bryd. Mae’n bleser mawr gen i ddatgan felly fod yr Arglwydd Lloyd-Jones o Oruchaf Lys y Deyrnas Unedig, yn garedig iawn, wedi cytuno i wasanaethu fel Llywydd cyntaf y Cyngor.”