Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol gyfle newydd, yn sgil etholiad y Senedd, i brofi eu hunain i bobol Cymru ac i “ailadeiladu”.

Dyna farn Jane Dodds, arweinydd y blaid yng Nghymru a’i hunig Aelod o’r Senedd.

Fe gollwyd etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed, sedd a gynrychiolwyd gan Kirsty Williams ers 1999.

A bu i’r Democratiaid Rhyddfrydol dderbyn 4.9% o’r bleidlais etholaethol (cwymp o 2.8%), a 4.3% o’r bleidlais ranbarthol (cwymp o 2.2%).