Etholiad Senedd 2021 – dydd Sadwrn

Yr holl ymateb i ganlyniadau etholiad y Senedd

Llywodraeth Cymru/Golwg

Canlyniadau’r ddau ranbarth olaf ddydd Sadwrn…

  • Llafur yw’r blaid fwyaf gyda 30 o seddi.
  • Y Ceidwadwyr wedi cipio Dyffryn Clwyd a Brycheiniog a Sir Faesyfed.
  • Plaid Cymru yn colli’r Rhondda, ac yn methu ail sedd rhanbarth yn y Gogledd o drwch blewyn.
  • Democratiaid Rhyddfrydol yn llwyddo i ennill un sedd ar restr Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Edrychwch yn ôl dros ddiweddariadau dydd Gwener.

13:00

Edefyn diddorol ar gyfrif Twitter Jac Larner yn edrych ar berfformiadau’r pleidiau o’i gymharu â 2016

Yn fras:

  • Llafur Cymru wedi perfformio’n well na’u perfformiad yn 2016 mewn 33/40 o etholaethau gan arwain at un golled ac un yn cipiad. Canlyniad da i blaid sydd mewn grym ers 1999.
  • Perfformiad gwell fyth i Geidwadwyr Cymru, i fyny ym mhobman, bron, ar berfformiad 2016 gan gipio dwy etholaeth. Fodd bynnag, methiant i ailadrodd llwyddiant etholiad San Steffan yn y Gogledd Ddwyrain
  • Llawer mwy cymysg i Blaid Cymru. Gwell perfformiad yn y mwyafrif o etholaethau, ond lle collasant dir collasant *lawer* o dir

12:58

Dilyn ôl troed ei thad

Fel mae Dafydd Trystan yn nodi, mae llwyddiant Natasha Asghar yn haeddu sylw. Yn ogystal â bod y ddynes gyntaf o leiaf ethnig i’w hethol, ai hi hefyd yw’r gwleidydd cyntaf i olynu ei thad yn y Senedd?

Diddorol yw nodi hefyd I Natasha, fel ei thad Mohammad, fwrw ei phrentisiaeth wleidyddol gyda Phlaid Cymru, ar brofiad gwaith gyda Jocelyn Davies.

Colled fawr i’r Senedd oedd marwolaeth sydyn Mohammad Ashgar y llynedd, ac mae’n sicr y byddai wrth ei fodd gyda llwyddiant ei ferch.

12:51

Gwynt teg ar ôl y ‘Di-hid’!

Mae methiant Mark Reckless a’i blaid ddiweddaraf yn yr etholiad yn destun llawenydd i bawb sy’n arddel y mymryn lleiaf o wladgarwch Gymreig. Ac yn wir i bawb sy’n credu mewn democratiaeth.

Ar ôl methu â chadw ei sedd dros Ukip yn etholiad San Steffan 2015, defnyddiodd y ‘Di-hid’ etholiad Senedd Cymru fel llwyfan i ledaenu neges y blaid honno yn 2016. Dros y blynyddoedd ers hynny, mae wedi mynd o un blaid i’r llall, gan gynnwys y Ceidwadwyr, heb unrhyw atebolrwydd democrataidd. Yn y diwedd, penderfynodd mai diddymu’r senedd oedd yr achos cenedlaetholgar Seisnig a fyddai’r cynnig y cyfle gorau iddo achub ei yrfa.

Neges glir pobl Cymru iddo ddydd Iau oedd: Dos yn ôl i fod yn fethiant gwleidyddol yn dy wlad dy hun.

12:51

Darn bach o hanes… Natasha Asghar yw’r fenyw o liw gyntaf yn y Senedd

12:46

Hwyl fawr Reckless!

Wel dyna ni… canlyniad Dwyrain De Cymru.

Mae’r canlyniad yn golygu na fydd Mark Reckless, Plaid Diddymu’r Cynulliad, nac ychwaith Neil Hamilton, UKIP, yn dychwelyd i’r Senedd.

Roedd dyfalu y gallai’r Diddymwyr fod wedi ennill sedd yma.

 

12:45

Goruchafiaeth lwyr y tair prif blaid

Yn yr etholaethau, pleidleisiodd 86.3% – chwe etholwr allan o bob saith – dros un o’r tair prif blaid. Mae’n ymddangos bod Llafur, y Toriaid a Phlaid Cymru rhyngddyn nhw’n gallu apelio at ystod eang o ddaliadau gwleidyddol ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol sy’n cynrychioli barn mwyafrif llethol etholwyr Cymru.

Mae hyn yn eu galluogi i wasgu’r pleidiau llai, boed nhw’n bleidiau cenedlaetholgar eithafol Seisnig neu Gymreig, yn amgylcheddwyr y Blaid Werdd, neu’n cynrychioli’r canol cymedrol fel y Democratiaid Rhyddfrydol. Teg nodi, fodd bynnag, fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn sylweddol ar y blaen i’r mân bleidiau eraill, ar ôl cadw eu safle fel pedwerydd plaid gyda bron i 5% o’r bleidlais.

Go brin er hynny fod llawer o ddyfodol bellach i’r Democratiaid Rhyddfrydol fel plaid ar wahân. Anodd osgoi’r casgliad y daeth yr amser i’w harweinwyr feddwl o ddifrif a allen nhw wneud cyfraniad mwy effeithiol fel aelodau o’r Blaid Lafur neu Blaid Cymru.

12:43

Delyth Jewell (Plaid Cymru), Laura Anne Jones (Ceidwadwyr), Natasha Asghar (Ceidwadwyr) a Peredur Owen Griffiths (Plaid Cymru) yn cael eu hethol yn rhanbarth Dwyrain De Cymru.

12:40

Rhagor o amwyster

Yn sgil ei sylwadau amwys ar S4C, daeth rhagor o sylwadau tebyg gan Jane Dodds yn siarad ar raglen fyw y BBC.

Dywedodd ei bod hi’n “bendant ddim yn mynd i gael cynnig swydd weinidogol” gan dynnu sylw at ei diffyg profiad yn y Senedd.

Ac ategodd ei bod ond eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn “delifro gwerthoedd rhyddfrydol” ac yn sicrhau bod polisïau ei phlaid yn cael eu gwireddu.

Mae hi’n agored i weithio “ag unrhyw un” ar lefel trawsbleidiol, meddai, ond hoffai ddylanwadu ar y Blaid Lafur yn bennaf.

12:31

Richard Wyn Jones yn dweud bod hi’n “anodd iawn gweld” y Democraitiaid Rhyddfrydol yn “ailgodi” yn y Canolbarth gan fod y “traddodiad, y gwaddol” yno “wedi mynd ar chwal”.

Dywedodd bod yr un yn wir yng Nghanol Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd…

“Be ma nhw’n ychwanegu at y drafodaeth nad oes ’na neb arall yn ei wneud?” meddai.

Tipyn i’r Democratiaid fyfyrio yn ei gylch ar fore b’nawn Sadwrn gwlyb.

12:24

Jane Dodds newydd ddweud wrth S4C na fydd hi “fyth, byth yn cytuno efo clymblaid eto” a bod angen i’w phlaid “edrych ar beth sydd orau i bobol dros Gymru” ac “edrych i weld be sy’ am ddigwydd”.

Dywedodd ei bod wedi clywed bod Llafur eisiau “symud ymlaen yn gyflym i gael pethau yn eu lle”.

Dywedodd “cawn ni weld” a’i bod “yn gynnar iawn” ond ategodd… “dim clymblaid o gwbwl, dwi’n sicr o hynny.”

Felly dim clymblaid, ond “cawn ni weld”.