Etholiad Senedd 2021 – dydd Sadwrn

Yr holl ymateb i ganlyniadau etholiad y Senedd

Llywodraeth Cymru/Golwg

Canlyniadau’r ddau ranbarth olaf ddydd Sadwrn…

  • Llafur yw’r blaid fwyaf gyda 30 o seddi.
  • Y Ceidwadwyr wedi cipio Dyffryn Clwyd a Brycheiniog a Sir Faesyfed.
  • Plaid Cymru yn colli’r Rhondda, ac yn methu ail sedd rhanbarth yn y Gogledd o drwch blewyn.
  • Democratiaid Rhyddfrydol yn llwyddo i ennill un sedd ar restr Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Edrychwch yn ôl dros ddiweddariadau dydd Gwener.

11:22

“What are the Dodds?”

Y cwestiwn mawr o’n blaenau yn awr yw sut olwg fydd ar Lywodraeth nesa’ Cymru?

Oni bai bod Llafur Cymru yn llwyddo ennill sedd ranbarthol arall (sy’n hynod annhebygol) mae’n edrych yn bur debyg mai dau opsiwn sydd: Llywodraethu yn blaid fwyaf ond heb fwyafrif llawn, neu daro rhyw fath o fargen â Jane Dodds, yr unig AoS Democratiaid Rhyddfrydol (hyd yma ta beth).

A dyfynnu Garmon: “What are the Dodds?!”. Wel, wedi tymor cyfan o gydweithio rhwng Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol (roedd Kirsty Williams, cyn-AoS o’r felynblaid, yn Weinidog Addysg) nid yw’n anodd dychmygu cytundeb o ryw fath rhwng y ddwy blaid.

11:14

Mae sedd y Canolbarth a’r Gorllewin wedi rhyw fath o achub y Democratiaid Rhyddfrydol ac wedi rhoi ateb hawdd i Mark Drakeford wrth iddo fo chwilio am lywodraeth sefydlog.

Jane Dodds i mewn yn lle Kirsty Williams. Y cwestiwn nesa: i ba raddau y bydd y Prif Weinidog yn gweld yr angen i gydweithio ymhellach na hynny, yn enwedig mewn rhai meysydd?

11:11

Y ffin denau rhwng ennill a cholli

O’r cychwyn rydym wedi gwybod fod mathemateg y seddi rhestr yn gallu bod yn heriol ac arwain at ornestau agos iawn. Gwelson ni yn union hynny gyda chanlyniadau’r Gogledd a’r Canolbarth.

Yn y Canolbarth rhyw 500 pleidlais yn unig ar draws yr holl ranbarth oedd mantais Jane Dodds dros Lafur am y sedd olaf un.

Ond os oedd hynny’n agos, trwch asgell gwybedyn yn unig – neu a bod yn fanwl gywir 21 pleidlais – oedd rhwng Carrie Harper o Blaid Cymru a’r Ceidwadwr Sam Rowlands. Rowlands a orfu ond ar draws rhanbarth enfawr y Gogledd mae hynny mor, mor agos.

11:03

Dyma ni – ail ddiwrnod y cyfri. Dim ond dau ranbarth sydd ar ôl, ond mae’n bosib neith hi gymryd sbel cyn y gewn ni’r canlyniadau.

Roedd dyfalu yn wreiddiol y byddai canlyniadau Canol De Cymru a Dwyrain De Cymru yn cyrraedd yn reit handi, ond dyw hynny ddim yn swnio mor debygol mwyach.

Mae golwg360 ar ddeall bod disgwyl canlyniad Canol De Cymru tua 1.00/2.00 y prynhawn. Ond does dim sicrwydd am hynny, ac mi all gymryd tipyn yn hirach.

11:02

So beth sydd ar ol heddi? Wel, ma’ ’na 8 sedd yn weddill: sef seddi rhestrau Canol De Cymru a Dwyrain De Cymru…

A hithau’n ddydd Sadwrn, ma Iolo Jones wedi bod yn trïo cael gwybod faint o’r gloch fydd hyn oll yn digwydd – roith e wybod yr hyn ma fe’n gwybod yn y man…

10:59

Bore da! Dyma ni nôl yn dilyn noson lwyddiannus iawn i Mark Drakeford a’r Blaid Lafur.

Sortiwyd 40 etholaeth ddoe, gyda Llafur yn cipio 27 sedd, y Ceidwadwyr 8 a Phlaid Cymru 5.

Cafwyd canlyniadau tair rhanbarth hefyd gyda Llafur yn ennill 3 sedd ychwanegol, y Ceidwawyr yn cael 4, a Phlaid Cymru hefyd yn cael 4… ac, wrth gwrs, ar y funud olaf un fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol osgoi wipeout wrth i Jane Dodds gael ei hethol oddi ar restr Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae hyn oll wedi gadael ni gyda’r sefyllfa a welwch chi ar ein map hyfryd….

10:49

Bore da! Dyma’n prif straeon y bore yma:

Llafur Cymru’n paratoi am dymor arall wrth y llyw yn y Senedd

Maen nhw wedi ennill cyfanswm o 30 o seddi – gydag ambell ganlyniad rhanbarthol eto i ddod

Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, yn addo “gweithio’n adeiladol”

Mae hi wedi’i hethol i sedd ranbarthol yn y Canolbarth a’r Gorllewin

A gallwch chi hefyd edrych yn ôl dros ddiweddariadau blog byw ddoe a neithiwr:

Adeilad y Senedd gyda logo Golwg360

Etholiad Senedd 2021 – dydd Gwener

Garmon Ceiro

Canlyniadau Etholiad Senedd 2021, a’r holl ymateb