Etholiad Senedd 2021 – dydd Sadwrn

Yr holl ymateb i ganlyniadau etholiad y Senedd

Llywodraeth Cymru/Golwg

Canlyniadau’r ddau ranbarth olaf ddydd Sadwrn…

  • Llafur yw’r blaid fwyaf gyda 30 o seddi.
  • Y Ceidwadwyr wedi cipio Dyffryn Clwyd a Brycheiniog a Sir Faesyfed.
  • Plaid Cymru yn colli’r Rhondda, ac yn methu ail sedd rhanbarth yn y Gogledd o drwch blewyn.
  • Democratiaid Rhyddfrydol yn llwyddo i ennill un sedd ar restr Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Edrychwch yn ôl dros ddiweddariadau dydd Gwener.

14:12

Cadarnhau’r cyfrif terfynol

Canlyniad Canol De Cymru’n cadarnhau’r hyn a ddaeth i’r amlwg neithiwr fel cyfrif terfynol y pleidiau:

Llafur 30

Torïaid 16

Plaid Cymru 13

Democrat Rhyddfrydol 1

Ychydig iawn o newid mewn gwirionedd, dim ond bod Llafur wedi ennill tir yn gwbl groes i bob disgwyl, a’r ddwy brif wrthblaid wedi elwa ar chwalfa Ukip a’u holynwyr.

13:56

“Sut mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig am ddelio â hyn?” gofynna Richard Wyn Jones.

“Ydan nhw’n mynd i chwilio am fantais bleidiol yng Nghymru? Hynny yw, trio mynd i ryfel gyda Llywodraeth Cymru trwy’r amser, gan feddwl bod yna fantais bleidiol?

“Neu ydan nhw’n gweld eu hunain fel gwarcheidwaid y wladwriaeth sy’n gorfod cael perthynas waraidd hefo Llywodraeth Cymru gan barchu’r mandad – dros y blynyddoedd diwetha’ dydyn nhw ddim wedi parchu’r mandad…”

Gorffennodd drwy ddarogan “rhyfel parhaus” …. Duw a’n helpo.

13:56

Canol De Cymru yn ethol Andrew RT Davies (C), Rhys ab Owen (PC), Joel James (C), Heledd Fychan (PC).

13:50

Mae’r mwynhau o ran cwymp Mark Reckless yn parhau…

13:49

Gwadu bod y Diddymwyr yn wrth-Gymraeg

Richard Taylor oedd ymgeisydd aflwyddiannus Plaid Diddymu’r Cynulliad, ac mae’n amlwg nad yw’n rhy hapus â chanlyniad yr etholiad.

Er bod arolygon barn wedi dyfalu y gallen nhw ennill hyd at bump sedd, dydyn nhw ddim wedi ennill yr un blaid hyd yma, a dyw e’ ddim yn edrych yn debygol nawn nhw ennill rhai o’r seddi sydd ar ôl.

Yn debyg i’w gyd-Ddiddymwr, Le Canning, a fu’n rhannu ei rwystredigaeth â BBC Wales, roedd ganddo eiriau anghynnes i UKIP wrth siarad ag S4C.

“Byddwn yn dal i ymgyrchu [yn erbyn y Senedd],” meddai. “Beth am fod yn onest. Mae UKIP wedi chwythu’i phlwc. A ni yw’r unig wrthwynebiad go iawn i ddatganoli yng Nghymru.”

Mae lle i ddadlau bod pleidiau gwrth-Senedd wedi dryllio gobeithion ei gilydd trwy rannu’r bleidlais.

Roedd hefyd ganddo sylwadau am y Gymraeg.

Yn siarad yn fyw ar yr awyr bu iddo ladd ar yr “adroddiadau ffug” bod Plaid Diddymu’r Cynulliad yn wrth-Gymraeg.

“Gallwn  ni fod wedi cyfleu ein neges yn gliriach â materion penodol,” meddai wrth drafod hynny.

13:45

“Fedrwn ni adael y syniad ’ma bod o di bod yn oce i’r Blaid??” medd Richard Wyn Jones mewn trafodaeth oedd yn cynnwys Mabon ap Gwynfor a Hywel Williams.

“Ym mhob un cystadleuaeth rhwng Plaid Cymru a Llafur… mewn seddi oedd yn y fantol… mi gafodd Plaid Cymru ei chwalu yn llwyr…” meddai.

“Rhondda, Llanelli, Blaenau Gwent, Gorllewin Caerdydd… dyna oedd tirwedd y frwydr rhwng Plaid Cymru a Llafur… fe chwalwyd [y Blaid] yn bob man…

“Mae’n gwesteion ni’n son am ddod yn ail, [ond] ma nhw wedi camu ymhell yn ôl yn y seddi hynny… roedd Llanelli yn chwalfa gan Lee Waters a’r Blaid Lafur… nos nad oes ’na hunanholi go galed ar ôl yr etholiad yma, yna fyddwn ni nol ymhen pum mlynedd … yn cael yr un sgwrs…”

Paid dal nôl, Dicw!

13:29

Postiaf hyn heb wneud sylw…

13:16

Camau nesa’

Lle ‘yn ni arni felly? Wel, mae Llafur un sedd yn brin o fwyafrif, ac mae yna bedair sedd (seddi Rhanbarth Canol De Cymru) ar ôl i’w datgan.

Mae’n hynod annhebygol y bydd Llafur yn ennill sedd yn y rhanbarth hwn, a hynny am ei bod wedi ennill cynifer o seddi etholaethol yno.

Ac mae cryn ddyfalu mai’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru fydd yn ennill y seddi olaf yma – dwy sedd yr un, mwy na thebyg.

Lle mae hynny’n gadael Llafur felly? Wel, bydd ’na gryn drafod rhwng Llafur a’r un Democrat Rhyddfrydol, Jane Dodds, dros y diwrnodau i ddod.

A fyddan nhw’n taro bargen o ryw fath? Dyna yw’r cwestiwn mawr…

13:13

Gyda chymaint o sôn am noson siomedig i’r Ceidwadwyr, mae’n werth nodi bod ganddyn nhw 14 aelod yn y Senedd bellach – a bo hynny’n gyfartal â’u canlyniad gorau erioed mewn etholiadau Senedd….

13:10

Fe Ddaeth, ac Mi Aeth…

Mae’r Senedd bellach yn Recklessless, ac mae sawl person ar Twitter, gan gynnwys aelodau etholedig, yn mwynhau’r ffaith honno ar hyn o bryd…