Etholiad Senedd 2021 – dydd Gwener

Canlyniadau Etholiad Senedd 2021, a’r holl ymateb

Garmon Ceiro
gan Garmon Ceiro
Adeilad y Senedd gyda logo Golwg360

Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.

Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.

20:42

Vaughan Roderick yn disgwyl “trafod a thrin” am beth amser ar ol yr etholiad, a dim cyhoeddiad mawr am drefniant, a Richard Wyn Jones yn dweud bod Llafur wedi gwneud mor dda bod y trafod yn “anos – bydd lot o aelodau’n gofyn ‘pam wnawn ni ddim llywodraethu ar ein liwt eun hun?”

Mae’n rhagweld bod clymblaid ffurfiol yn “llawer anos”….

Ac mae Seimon Brooks yn cytuno, ac yn dweud bod gan Lafur “fandad amlwg” i lywodraethu ar eu pen eu hunain…

20:42

Mwyafrif o 6,813 i Adam Price yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

20:41

Mae Adam Price wedi dangos ei wyneb o’r diwedd. Yn siarad â’r BBC roedd yn rhyfeddol o bositif. “Rydym wedi troi’n fudiad Cymru gyfan,” meddai.

Ry’n ni wedi gweld cyfweliadau gan Mark Drakeford ac Adam erbyn hyn. Felly ble ar y ddaear mae Andrew RT Davies yn cuddio?!

20:39

Pe bai Llafur yn llwyddo i ddal gafael ym Mro Morgannwg yn groes i bob disgwyl, mi fydden nhw’n agos iawn at fwyafrif.

Roedd eu buddugoliaeth rwydd yng Ngogledd Caerdydd yn arwydd clir o’r ffordd mae’r gwynt yn chwythu. Rhaid cofio bod hon yn etholaeth mae’r Toriaid wedi ei dal yn y Senedd rhwng 2007 a 2011.

20:38

Pum sedd etholaethol ar ôl! Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Cwm Cynon, Pontypridd, Gorllewin Caerdydd a Bro Morgannwg.

Does dim disgwyl unrhyw syrpreis mawr â phedair o’r rhain, ond mae’n ddigon posib y bydd Bro Morgannwg yn gyffrous. Tybed a wneith Jane Hutt – sydd wedi cynrychioli’r sedd ers dechrau datganoli – yn cadw’i gafael ar y sedd?

Wel, mae’n edrych yn debygol y bydd hi…

 

20:38

Buddugoliaethau mawr eraill i Lafur yng Ngogledd Caerdydd a De Caerdydd a Phenarth…

20:35

Vaughan Gething yn fuddugol yn Ne Caerdydd a Phenarth.

20:34

Dim syndod ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed ond digalon iawn i’r Democratiaid Rhyddfrydol – mae gafael y blaid ar ganolbarth Cymru, ers 1868, wedi dod i ben!

20:33

James Evans wedi cipio unig sedd y Deocratiaid Rhyddfrydol i’r Ceidwadwyr gyda mwyafrif o bron i 4,000

20:33

Ar y pwynt hwn, y cwestiwn ydi, a gaiff Llafur fwyafrif?

Erbyn diwedd y dydd, mae’n debyg y bydd gan Lafur 27 o etholaethau i’w henw. Mae hynny’n golygu y byddai’n rhaid iddyn nhw bigo fyny 4 sedd ranbarthol.

O edrych ar y ffordd mae’r bleidlais yn mynd, maen nhw’n sicr o gael dwy sedd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Mae hynny’n 29.

Rŵan, gyda cholli Dyffryn Clwyd, mae ’na gyfle da am sedd yn y Gogledd, sy’n golygu y bydd hanner seddi’r Senedd yn eu meddiant.

Mae hynny’n golygu bod angen un arall. Ddaw hynny ddim o ranbarthau’r de oherwydd bod Llafur wedi gwneud cystal yn yr etholaethau. Serch hynny, mae ’na rhai arwyddion fod UKIP a Phlaid Diddymu’r bwrw yn erbyn ei gilydd, a gyda chwalfa’r Democratiaid Rhyddfrydol mae hynny’n agor posibiliad, sef y gallai pedwaredd sedd Canolbarth a Gorllewin Cymru benderfynu a welwn ni’r mwyafrif cyntaf erioed yn hanes datganoli.

Mae’n long shot, ond ar ôl yr oriau diwethaf yma, ni ddylid ei ddiystyru.