Etholiad Senedd 2021 – dydd Gwener

Canlyniadau Etholiad Senedd 2021, a’r holl ymateb

Garmon Ceiro
gan Garmon Ceiro
Adeilad y Senedd gyda logo Golwg360

Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.

Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.

20:34

Dim syndod ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed ond digalon iawn i’r Democratiaid Rhyddfrydol – mae gafael y blaid ar ganolbarth Cymru, ers 1868, wedi dod i ben!

20:33

James Evans wedi cipio unig sedd y Deocratiaid Rhyddfrydol i’r Ceidwadwyr gyda mwyafrif o bron i 4,000

20:33

Ar y pwynt hwn, y cwestiwn ydi, a gaiff Llafur fwyafrif?

Erbyn diwedd y dydd, mae’n debyg y bydd gan Lafur 27 o etholaethau i’w henw. Mae hynny’n golygu y byddai’n rhaid iddyn nhw bigo fyny 4 sedd ranbarthol.

O edrych ar y ffordd mae’r bleidlais yn mynd, maen nhw’n sicr o gael dwy sedd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Mae hynny’n 29.

Rŵan, gyda cholli Dyffryn Clwyd, mae ’na gyfle da am sedd yn y Gogledd, sy’n golygu y bydd hanner seddi’r Senedd yn eu meddiant.

Mae hynny’n golygu bod angen un arall. Ddaw hynny ddim o ranbarthau’r de oherwydd bod Llafur wedi gwneud cystal yn yr etholaethau. Serch hynny, mae ’na rhai arwyddion fod UKIP a Phlaid Diddymu’r bwrw yn erbyn ei gilydd, a gyda chwalfa’r Democratiaid Rhyddfrydol mae hynny’n agor posibiliad, sef y gallai pedwaredd sedd Canolbarth a Gorllewin Cymru benderfynu a welwn ni’r mwyafrif cyntaf erioed yn hanes datganoli.

Mae’n long shot, ond ar ôl yr oriau diwethaf yma, ni ddylid ei ddiystyru.

20:32

Y Ceidwadwyr yn cipio Brycheiniog a Sir Faesyfed o’r Democratiaid Rhyddfrydol.

20:28

Llafur yn cadw Gogledd Caerdydd.

20:27

Mae stori cynghorau lleol Lloegr yn hollol wahanol i Gymru, gyda’r Ceidwadwyr wedi ennill 162 yn fwy o seddi hyd yma a Llafur yn colli 147.

O ganlyniad, mae’r Ceidwadwyr wedi ennill rheolaeth ar saith cyngor ychwanegol a Llafur wedi colli rheolaeth ar bedwar.

Y collwyr eraill ydi’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Annibynwyr tra bod y Blaid Werdd wedi ennill 29 sedd ychwanegol.

20:21

Dere William ‘chan… ni gyd moyn mynd gatre…

20:20

Bydd rhaid dibynnu ar y rhestr … 

Tra bo’r canlyniadau etholaethol hyd yn hyn wedi bod yn mynd o blaid Llafur, mae’r darlun yn un tipyn mwy siomedig i Blaid Cymru, fel y mae eraill eisoes wedi trafod isod.

Yn yr un modd, er gwaethaf cipio Dyffryn Clwyd a’r tebygrwydd o gipio Brycheiniog a Maesyfed, mae’n debyg mai siomedig fydd y Ceidwadwyr hefyd, yn enwedig o ystyried y gobeithion oedd gan aelodau’r blaid ar gyfer yr etholiad hwn yn dilyn ei llwyddiannau yng Nghymru yn 2019.

O ystyried eu perfformiad cymharol siomedig yn yr etholaethau, mae arwyddocâd y seddi rhestr i Blaid Cymru a’r Ceidwadwyr yn cynyddu cryn dipyn ac fe allai ychydig o lwyddiant yma helpu’r ddwy blaid gyda’r her o roi spin cadarnhaol i’r canlyniadau dros y dyddiau nesaf.

Ac mae’n ddigon posib y gallai’r ddwy blaid wneud yn well ar y rhestr y tro hwn nag yn 2016 – nododd Dafydd Trystan eisoes bod perfformiad etholaethol y pleidiau bach (ar wahân i’r Gwyrddion) wedi bod yn wan hyd yn hyn ac felly nid yw’r rhagolygon yn addawol iddyn hwy o ran y seddi rhestr. Gallai hyn fod yn help mawr i’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru, yn enwedig ar draws y dair rhanbarth ddeheuol lle mae 12 sedd ar gael.

Gyda’r cadarnhad y bydd rhanbarth Canol De Cymru yn aros tan fory i gyfri’r pleidleisiau rhestr, bydd angen aros am sbel eto i gael gweld …

20:19

Llafur yn cadw Aberafan.

20:15

Rydyn ni wedi dweud ei bod hi’n ddiwrnod gwael i Blaid Cymru – mae o – ac yn un siomedig i’r Ceidwadwyr – mae o – ond mae’n dod yn gynyddol amlwg fod yr hyn sy’n wynebu’r Democratiaid Rhyddfrydol ar lefel wahanol.

Maen nhw wedi gweld gostyngiadau difrifol yn eu pleidlais yn eu cefn gwlad traddodiadol a’r ardaloedd dinesig y gwnaethon nhw ymwreiddio ynddynt yn ddiweddarach. 16% i lawr yng Nghanol Caerdydd, 22% i lawr yng Ngheredigion, ac 11% i lawr ym Maldwyn gyda Brycheiniog yn edrych yn ddu.

Mae’r blaid wedi cael ei gwasgu o’r blaen, a mynd drwy gyfnodau anodd, ond nid yn agos i’r graddau hyn yng Nghymru.

Nid dweud mawr ydi dweud fod o’n teimlo bod eu cyfraniad at wleidyddiaeth Cymru ar ben.