Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
Dyma fap o’r sefyllfa fel y ma’i…
Clymblaid yn annhebygol iawn?
Y cwestiwn mawr rwan… a fydd ar Lafur angen unrhyw help i ffurfio llywodraeth?
Rhywfaint o ‘ddealltwriaeth’ falle, ond mae clymblaid yn ymddangos yn annhebygol iawn.
Mae canlyniadau Llafur yn Llanelli a’r Rhondda yr un mor drawiadol a buddugoliaeth Plaid Cymru yng Ngheredigion.
Mae’n dangos fod Llafur yn dal i allu troi’r sgriws pan fo angen.
Ond mae patrwm gwleidyddol Cymru yn fwy soled nag erioed – pob un o’r prif bleidiau wedi cryfhau eu safleoedd yn eu cadarnleoedd ond heb wneud marc fel arall.
“Y gwir amdani ydi” medd Richard Wyn Jones “dw i jyst ddim yn meddwl bod peiriant ymgyrchu Plaid Cymru – ei threfniadaeth ganolog hi – y gallu i gasglu data [ddigon da]” yn dilyn canlyniadau Llanelli a’r Rhondda.
Mae’n hysbys na thair sedd ganolbwyntiodd Plaid Cymru arnynt yn yr etholiad hwn o ran ymgyrchu ac adnoddau: Aberconwy, Llanelli a’r Rhondda.
Yn Llanelli, gostyngodd y bleidlais gan 7.9% (y fuddugoliaeth hawsaf o gryn dipyn i unrhyw blaid yn y sedd honno); gan 3.8% yn Aberconwy a chan 19% yn y Rhondda. Gyda cholled Leanne Wood, mae’r Blaid wedi colli ei gwleidydd amlycaf.
Oes, mae yna sefyllfaoedd gwahanol ymhob un, a chan yr etholiad hwn ei gyd-destun ei hun, ond o feddwl na dim ond tair o 40 oedden nhw wir yn canolbwyntio arnynt, mae’r rhain yn ganlyniadau gwirioneddol, sobor o wael.
Mae Richard Wyn Jones ar S4C yn codi amheuon am ddulliau ymgyrchu, peirianwaith a threfniadaeth Plaid Cymru; diffygion sy’n eithaf hysbys oddi fewn iddi ond nad oes unrhyw un wedi mynd i’r afael â nhw.
Yn amlwg, ni ddatryswyd y problemau hyn at yr etholiad hwn, maen nhw wedi cael eu gwthio’n ôl ers blynyddoedd gan arweinwyr gwahanol i ganolbwyntio ar feysydd eraill.
Go brin y gall Plaid Cymru ohirio’r gwaith hwnnw mwyach.
Canlyniad Ceredigion oedd y diweddaraf mewn cyfres o ergydion difrifol i obeithion y Democratiaid Rhyddfrydol i barhau fel plaid berthnasol yng Nghymru.
O’r seddi sydd wedi’u cyhoeddi hyd yn hyn, dim ond mewn 5 ohonynt mae’r Rhyddfrydwyr wedi llwyddo i sicrhau dros 5% o’r bleidlais ac felly ad-ennill ei hernes.
Gyda’r adroddiadau o’r cyfri ym Mrycheiniog a Maesyfed yn arogli’n ddrwg ar hyn o bryd, ac o gofio tuedd y Rhyddfrydwyr i berfformio’n waeth ar y bleidlais rhestr na’r un etholaethol, mae’n bosib iawn na fydd gan y blaid gynrychiolaeth yn y Senedd nesaf.
O gofio etifeddiaeth hanesyddol y traddodiad Rhyddfrydol yng Nghymru, byddai hynny’n newid mawr.
Ergyd drom i’r blaid
Mae’n rhaid bod Plaid Cymru yn hynod siomedig â’r ddau ganlyniad diweddaraf – Llanelli a’r Rhondda.
Yn y ddau achos mae’r Blaid wedi colli dau AoS hynod proffil uchel (Helen Mary Jones a Leanne Wood), ac yn y ddau achos mae cefnogaeth tuag Lafur wedi cynyddu cryn dipyn.
Mae Helen Mary Jones hefyd ar restr rhanbarth Canolbarth a De Cymru (yn yr ail safle) ond mae’n hynod annhebygol o ennill sedd yma.
Sut i grynhoi diwrnod gyda sawl syrpreis yng Nghymru?
Wrth ddeffro roedd yr awgrymiadau o batrwm Lloegr yn peri pryder i Lafur – OND, mae’n amlwg erbyn hyn fod pobl wedi pleidleisio yn unol a’u gwethfawrogiad o waith gofalus a manwl Mark Drakeford fel Prif Weinidog.
Gall Llafur felly fod yn hapus iawn taw dim ond un sedd a gollwyd, ac fe ennillwyd y Rhondda yn ol.
Bydd y Ceidwadwyr, rwy’n tybio, yn siomedig – er gwaetha’r holl gobeithio dyw ennill Dyffryn Clwyd a Brycheiniog a Maesyfed yn fawr o return, pan mae’r blaid yn Lloegr yn gwneud gystal. Bydd Plaid Cymru yn siomedig rwy’n siwr – ond tybed oes cyfle ar y rhestrau.
Mae brwydr y rhestr yn dechrau siapio – bydd hi’n ymgiprys rhwng Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr yn bennaf, ond fe all rhai o’r pleidiau llai ymgiprys am y bedwaredd sedd.
Noder ar y pwynt hwn fod canlyniadau y Democratiaid Rhyddfrydol cyn waethed y bydd hi’n syndod go iawn pe tai ganddynt gyfle am sedd rhanbarthol. Os am sioc yfory (neu’n hwyrach heno) gwylier am y Gwyrddion … mae’n anhebyg y byddant yn ennill sedd, ond o’r pleidiau bach nhw yw’r unig rhai sydd wedi perfformio’n gymeradwy mewn etholaethau.
Oni bai fod ‘na nifer o Doriaid yn benthyg eu hail bleidlais i Abolish rwy’n fodlon mentro erbyn hyn na fydd na aelodau Abolish yn y Senedd.
Y blaid Lafur yn cipio’r Rhondda oddi wrth Plaid Cymru.
Pleidlais Leanne Wood i lawr 19%