Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
Pleidlais Leanne Wood i lawr 19%
Buffy Williams wedi cipio’r Rhondda yn ol oddi wrth Leanne Wood a Phlaid Cymru gyda mwyafrif o bron 5,500
“Dydych chi ddim yn ennill etholiad yn yr wythnosau cyn yr etholiad,” meddai Ben Lake yn dilyn buddugoliaeth Elin Jones yng Ngheredigion.
Yn hytrach, mae’r gefnogaeth yn cael ei gasglu dros y blynyddoedd blaenorol, meddai.
“Byddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd, dros y bobol i haeddu’r fath yna o gefnogaeth,” meddai Ben Lake.
“Rhaid cyfaddef ein bod ni’n mynd mewn i’r etholiad moyn ennill, mae hynny’n siomedig.”
Un peth sy’n “ganolog” meddai Ben Lake yw fod pethau ar newid mewn ardaloedd yng Nghymru lle nad yw Plaid Cymru wedi cael ymgeiswyr cyson, na gallu adeiladu cefnogaeth gyson.
Cyfeiriodd at y gefnogaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a Blaenau Gwent wrth drafod hynny.
“Mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru, yn y Senedd, mae unigolyn yn gallu gwneud lot o wahaniaeth. Mae yna wleidyddiaeth ar lefel bersonol yng Nghymru.
“Fel y cyfryw mae deiliaid y seddi yn gwneud yn dda iawn,” meddai Ben Lake.
“Falle fod yna rywbeth ar lefel lleol iawn yn digwydd mewn ambell etholaeth, lle mae pobol yn cefnogi’r sawl sydd wedi’u cynrychioli nhw am y bum mlynedd ddiwethaf.”
Ail-ethol Lee Waters yn Llanelli.
Lee Waters wedi cadw Llanelli i’r Blaid Lafur….
Llafur yn cadw Gorllewin Casnewydd.
Mae Chris Bryant, Aelod Seneddol y Rhondda, wedi rhannu fideo o’i hun yn talu teyrnged i Leanne Wood, Aelod o’r Senedd Rhondda, am ei gwaith, wedi iddi golli ei sedd…
Beth sy’n rhyfedd yw bod canlyniad y Rhondda heb gael ei gyhoeddi eto! Ac roedd Chris Bryant yn swnnio’n ddigon hapus â’r syniad ohoni’n colli’i sedd yn gynt yn y dydd!
It looks as if Labour has taken the Rhondda off Plaid so I want to pay tribute to Leanne Wood after 18 years as AM/MS for/in the Rhondda, which is a phenomenal act of dedication to our community. pic.twitter.com/3xlSIDOhyc
— Chris Bryant (@RhonddaBryant) May 7, 2021
Buddugoliaeth ysgubol I Blaid Cymru yng Ngheredigion, patrwm tebyg I etholaethau Gwynedd a Môn. Elin Jones wedi bod yn aelod gweithgar ac adnabyddus ers 1999 ac efallai wedi elwa ar amlygrwydd pellach fel llywydd.
Y Toriaid wedi methu’n llwyr â gwneud unrhyw argraff yng nghadarnleoedd Plaid Cymru.
Wrth i’r Democratiaid Rhyddfrydol ddod yn bedwerydd mewn sedd y buon nhw’n ei dal ar lefel San Steffan tan 2017, gallwn ddweud yn sicr nad oes ganddyn nhw fawr o obaith am sedd ar restr y Canolbarth bellach. Anodd credu na fydd hyn yn ergyd farwol iddyn nhw fel plaid yng Nghymru.
Newyddion drwg i Rhun ap Iorwerth … mae Elin Jones wedi chwalu ei record fel deiliad mwyafrif mwyaf Cymru hyd yma.
Gyda mwyafrif o 12,145 o bleidleisiau dros y Ceidwadwyr, gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn bedwerydd, dyma ydi canlyniad gorau erioed Elin Jones yn ei sedd, a hithau’n un o’r ychydig o oroeswyr o etholiad 1999.
Yn ddifyr, mae’n ymddangos mai’r prif ogwydd yng Ngheredigion, fel ym Maldwyn cyfagos, ydi o’r Democratiaid Rhyddfrydol i Blaid Cymru.
Ydi’r bleidlais ryddfrydol draddodiadol, hynny sydd ar ôl ohoni, yn mynd tuag at y cenedlaetholwyr?
Mae canlyniad Ceredigion yn un ardderchog i Elin Jones – 55% o’r bleidlais – ac yn adlewyrchu’r bleidlais bersonol gref y mae hi wedi’i meithrin yn y sedd bellach.
Elin, wrth gwrs, yw un o’r pedwar aelod sydd wedi eistedd yn y Cynulliad/Senedd yn ddi-dor ers 1999 – John Griffiths, Lynne Neagle a Jane Hutt yw’r tri arall (i ateb cwestiwn Iolo yn gynt pnawn ma!)
Ar y llaw arall, mae’r canlyniad yng Ngheredigion yn un trychinebus i’r Democratiaid Rhyddfrydol – syrthio i’r pedwerydd safle gyda chwymp o 22% yn ei phleidlais ers 2016.