Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
Buddugoliaeth ysgubol I Blaid Cymru yng Ngheredigion, patrwm tebyg I etholaethau Gwynedd a Môn. Elin Jones wedi bod yn aelod gweithgar ac adnabyddus ers 1999 ac efallai wedi elwa ar amlygrwydd pellach fel llywydd.
Y Toriaid wedi methu’n llwyr â gwneud unrhyw argraff yng nghadarnleoedd Plaid Cymru.
Wrth i’r Democratiaid Rhyddfrydol ddod yn bedwerydd mewn sedd y buon nhw’n ei dal ar lefel San Steffan tan 2017, gallwn ddweud yn sicr nad oes ganddyn nhw fawr o obaith am sedd ar restr y Canolbarth bellach. Anodd credu na fydd hyn yn ergyd farwol iddyn nhw fel plaid yng Nghymru.
Newyddion drwg i Rhun ap Iorwerth … mae Elin Jones wedi chwalu ei record fel deiliad mwyafrif mwyaf Cymru hyd yma.
Gyda mwyafrif o 12,145 o bleidleisiau dros y Ceidwadwyr, gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn bedwerydd, dyma ydi canlyniad gorau erioed Elin Jones yn ei sedd, a hithau’n un o’r ychydig o oroeswyr o etholiad 1999.
Yn ddifyr, mae’n ymddangos mai’r prif ogwydd yng Ngheredigion, fel ym Maldwyn cyfagos, ydi o’r Democratiaid Rhyddfrydol i Blaid Cymru.
Ydi’r bleidlais ryddfrydol draddodiadol, hynny sydd ar ôl ohoni, yn mynd tuag at y cenedlaetholwyr?
Mae canlyniad Ceredigion yn un ardderchog i Elin Jones – 55% o’r bleidlais – ac yn adlewyrchu’r bleidlais bersonol gref y mae hi wedi’i meithrin yn y sedd bellach.
Elin, wrth gwrs, yw un o’r pedwar aelod sydd wedi eistedd yn y Cynulliad/Senedd yn ddi-dor ers 1999 – John Griffiths, Lynne Neagle a Jane Hutt yw’r tri arall (i ateb cwestiwn Iolo yn gynt pnawn ma!)
Ar y llaw arall, mae’r canlyniad yng Ngheredigion yn un trychinebus i’r Democratiaid Rhyddfrydol – syrthio i’r pedwerydd safle gyda chwymp o 22% yn ei phleidlais ers 2016.
Ceredigion yw’r canlyniad gorau eto i Blaid Cymru, canlyniad i raddau i chwalfa’r Democratiaid Rhyddfrydol, gydag amryw o’u pleidleisiau nhw yn amlwg wedi mynd at Elin Jones sydd hefyd, bellach, a phleidlais bersonol fawr.
Mae hyn yn ei gwneud hi’n llai tebygol y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill sedd ranbarthol.
Tâl diswyddo #2 – Nick Ramsay
Sut alla’ i dynnu sylw at Dai Lloyd ai ysgytwad llaw euraidd (golden handshake?!), heb fy mod tynnu sylw at Nick Ramsay.
Dan reolau’r Senedd mae’r AoS rheiny sydd yn sefyll eto yn gymwys i dderbyn ‘grant ailsefydlu’.
Ac felly trwy fethu ag ail-ennill sedd Mynwy mi fydd Nick Ramsay yn derbyn taliad sy’n gyfwerth â chwe mis o dâl.
Roedd yn Gadeirydd ar Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd gyda chyflog £81,390 felly mi fydd yn derbyn ‘grant ailsefydlu’ £40,695.
Enillodd Nick Ramsay y sedd dros y Ceidwadwyr yn 2016, ond yn sgil cryn ffraeo rhyngddo ef â’r blaid mi safodd yn annibynnol y tro hwn.
“Ma’r mwyafrif yn fwy nag un fi!” medd Ben Lake am fuddugoliaeth Elin Jones yng Ngheredigion…
Mwyafrif o 12,145 i Elin Jones yng Ngheredigion.
Elin Jones yn ennill Ceredigion yn hawdd iawn… Y Democratiaid Rhyddfrydol ddim yn ail nac yn drydydd!
Ceidwadwyr oedd yn ail, Llafur yn drydydd…
Perfformio achos y pandemig?
Cwestiwn newydd fod ar Radio Cymru – ai’r pandemig sy’n gyfrifol am ganlyniad da’r Blaid Lafur?
Dw i am fentro dweud, i raddau helaeth ie.
Cyn hyn, yn annheg a dweud y gwir, roedd Mark Drakeford yn cael ei weld yn ddi-liw a meddal; mae’r pandemig wedi dangos ei gryfderau.
Heb y pandemig, mi fyddai wedi bod yn haws i’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru’n enwedig ymosod ar Lafur am ddiffyg uchelgais a dweud bod angen newid.
Bellach rydym wedi cael canlyniadau ar gyfer nifer o’r seddi allweddol hynny oedd yn nwylo Llafur ers 2016 ond lle roedd y Ceidwadwyr yn herio – grwp o seddi allweddol o safbwynt natur y canlyniad terfynol.
Yn arwyddocaol dim ond un o’r seddi hyn y mae’r Ceidwadwr wedi llwyddo i’w chipio, sef Dyffryn Clwyd. Mae rhai sïon gobeithiol yn dod gan y blaid o Fro Morgannwg hefyd, ond nid oes canlyniad yno eto.
Fodd bynnag, mewn seddi allweddol eraill, megis Gwyr, Wrecsam, De Clwyd a Delyn– amryw ohonynt yn seddi y llwyddodd y Ceidwadwyr i’w cipio ar lefel San Steffan yn 2019 – mae Llafur wedi dal ei thir ac yn wir wedi cynyddu ei phleidlais, weithiau 7% neu fwy.
Mae hyn yn tanlinellu unwaith eto cymaint o beiriant etholiadol effeithiol yw’r Blaid Lafur – dyma’r trydydd etholiad datganoledig o’r bron lle bu darogan ar ddechrau’r ymgyrch bod y blaid o dan bwysau mewn sawl rhan o Gymru, ond bod y canlyniadau terfynol yn tueddu i fynd o’i phlaid.
Ar ben hynny, mae’r ffaith bod Llafur yn dal ei thir yn seddi yn oedd yn dargedau i’r Ceidwadwyr, tra bo’r bleidlais arwyddocaol i UKIP ers 2016 yn diflannu, yn pwysleisio nad yw gwleidyddiaeth Cymru – ar y lefel ddatganoledig o leiaf – i’w gweld ym dilyn patrwm tebyg i’r hyn rydym wedi’i weld yn Lloegr.