Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
Bellach rydym wedi cael canlyniadau ar gyfer nifer o’r seddi allweddol hynny oedd yn nwylo Llafur ers 2016 ond lle roedd y Ceidwadwyr yn herio – grwp o seddi allweddol o safbwynt natur y canlyniad terfynol.
Yn arwyddocaol dim ond un o’r seddi hyn y mae’r Ceidwadwr wedi llwyddo i’w chipio, sef Dyffryn Clwyd. Mae rhai sïon gobeithiol yn dod gan y blaid o Fro Morgannwg hefyd, ond nid oes canlyniad yno eto.
Fodd bynnag, mewn seddi allweddol eraill, megis Gwyr, Wrecsam, De Clwyd a Delyn– amryw ohonynt yn seddi y llwyddodd y Ceidwadwyr i’w cipio ar lefel San Steffan yn 2019 – mae Llafur wedi dal ei thir ac yn wir wedi cynyddu ei phleidlais, weithiau 7% neu fwy.
Mae hyn yn tanlinellu unwaith eto cymaint o beiriant etholiadol effeithiol yw’r Blaid Lafur – dyma’r trydydd etholiad datganoledig o’r bron lle bu darogan ar ddechrau’r ymgyrch bod y blaid o dan bwysau mewn sawl rhan o Gymru, ond bod y canlyniadau terfynol yn tueddu i fynd o’i phlaid.
Ar ben hynny, mae’r ffaith bod Llafur yn dal ei thir yn seddi yn oedd yn dargedau i’r Ceidwadwyr, tra bo’r bleidlais arwyddocaol i UKIP ers 2016 yn diflannu, yn pwysleisio nad yw gwleidyddiaeth Cymru – ar y lefel ddatganoledig o leiaf – i’w gweld ym dilyn patrwm tebyg i’r hyn rydym wedi’i weld yn Lloegr.
Yn ôl Richard Wyn Jones, mae’n bosib y bydd Peter Fox yn “ffigwr reit bwysig” yn y Senedd.
Mae Peter Fox wedi ei ethol ar ran y Ceidwadwyr ym Mynwy, ac yn ôl Richard Wyn Jones mae ganddo “wybodaeth polisi” na sydd gan nifer o aelodau eraill yn y Senedd, oherwydd ei brofiad ar y cyngor lleol.
Ers 2008, mae Peter Fox yn arweinydd Cyngor Sir Fynwy, a bu’n is-arweinydd am bum mlynedd cyn hynny.
Dyma be chi’n galw’n zinger…
Nick Ramsay gets 1,293 votes in Monmouth.
Presumably they are the only remaining people in the town he hasn't yet sued https://t.co/585blkNwi0
— Will Hayward (@WillHayCardiff) May 7, 2021
Mae Mark Drakeford wedi siarad â’r cyfryngau heddiw, ond dim gair oddi wrth Andrew RT Davies nac Adam Price, er bod dros hanner etholaethau Cymru wedi cyhoeddi eu canlyniadau.
Ydyn nhw’n cuddio?
Llafur wedi dal mla’n i Ddwyrain Casnewydd… John Griffiths oedd eu hymgeisydd yno… mwyafrif o 3584
Brilliant news that Welsh Labour's @JGriffithsLab is heading back to the Senedd to represent the people of Newport East! pic.twitter.com/zLLKurJfWr
— Welsh Labour (@WelshLabour) May 7, 2021
John Griffiths yn cadw Dwyrain Casnewydd i Lafur.
Mae John Griffiths wedi dal ymlaen i’w sedd yn Nwyrain Casnewydd…
A dyma fi’n mantesisio ar y cyfle i ateb fy nghwestiwn cwis! Pa aelodau o ddosbarth ’99 (unigolion sydd wedi bod â sedd yn y Senedd ers 1999) sydd yn sefyll eleni eto?
Dim ond pedawr sydd, a dyma nhw:
- Elin Jones – Ceredigion
- Jane Hutt – Bro Morgannwg
- Lynne Neagle – Torfaen
- John Griffiths – Dwyrain Casnewydd
CYWIRIAD GEN I!
Ddaeth Nick Ramsey ddim yn olaf ym Mynwy – fe gurodd o Blaid Diddymu’r Cynulliad (a Mark Reckless, neb llai), Plaid Diwygio, y Gynghrair Rhyddid a Gwlad.
‘Dwn i ddim a ydi hynny am wneud iddo deimlo’n llawer gwell.
Dau ganlyniad arall arwyddocaol – buddugoliaeth rwydd i Lafur ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a pherfformiad cryf gan Lafur ym Mynwy hefyd, sydd wedi bod yn sedd gadarn i’r Toriaid ers 1999.
Nick Ramsey, a gynrychiolodd yr etholaeth fel Aelod Toriaidd ers 2007, yn methu’n llwyr wrth sefyll fel ymgeisydd annibynnol. Yn y gwaelodion heb fawr mwy na hanner pleidleisiau Plaid Cymru hyd yn oed. Sy’n codi cwestiwn o faint o gefnogaeth personol sydd gan lawer o’n gwleidyddion.
O leiaf cafodd fymryn mwy o bleidleisiau na Mark Reckless dros Abolish. Hen bryd i hwnnw fynd yn ôl i fod yn fethiant gwleidyddol yn ei wlad ei hun?
Carwyn Jones yn llongyfarch
Yn siarad ar BBC Wales mae Carwyn Jones, cyn-AoS Pen-y-bont ar Ogwr, wedi llongyfarch ei olynydd Sarah Murphy.
“Mae’n hyfryd gweld Sarah yn ennill,” meddai. “Mae’r sedd mewn dwylo saff. Mi weithiodd hi mor galed. Dyw canlyniadau fel hyn ddim jest yn dod o nunlle.
“Mae pobol yn gweithio’n galed iawn am hyn. Ac mae jest yn grêt gweld mwyafrif cyffyrddus da – yn enwedig ar ôl beth ddigwyddodd yn 2019.”
Wnaeth y Ceidwadwyr gipio’r sedd yn etholiad cyffredinol 2019 – roedd y sedd wedi bod yng ngafael Llafur am ddegawdau cyn hynny (ers 1987).