Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
Y diweddara o’r Alban
Mae’r SNP bellach ar 32 a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 4. Dim ond dwy sedd sydd wedi newid – y ddwy i’r SNP.
Ar ddechre’r blog byw yma wnaeth Jason a finnau rhoi cynnig ar ddyfalu y canlyniadau…
Hyd yma mae fy ’darogan-fap’ yn gywir. Y cwestiwn mawr yn awr yw: ‘Pryd fydd fy mhroffwydoliaeth yn chwalu’n ddarnau?!’
Mae gen i deimlad yr oeddwn i’n or-optimistaidd am obeithion y Blaid yn y Rhondda, ac yn or-optimisatidd am obeithion y Toriaid ym Mro Morgannwg…
Roedd Jason yn darogan y byddai rhan helaeth o’r de ddwyrain yn goch. Dw i’n dechrau credu mai fe oedd yn iawn!
Darogan etholiadau’r Senedd
O weld y canlyniadau hyd yn hyn, mae dosbarthu’r pleidleisiau rhanbarthol am fod yn ddiddorol iawn oherwydd diffyg y pleidiau llai.
Mae’r pleidiau mawr yn debyg o ennill mwy ohonyn nhw … ond rhaid cofio na fydd y bleidlais ranbarthol yn union fel yr etholaethau.
Gyda’r Diddymwyr i’w gweld yn perfformio’n wael, mae ambell un yn gofyn a ddylid bod wedi eu gwahodd i’r ddadl deledu…
Gobeithio bod y Beeb yn teimlo rhywfaint o gywilydd am roi 'Diddymch' ar lwyfan mawr yr arweinwyr y dydd o'r blaen.
— Iestyn Hughes (@Traedmawr) May 7, 2021
Mwyafrif i’r SNP…?
Cemlyn Davies sy’n adrodd eu bod nhw wedi ennill dwy a dal eu gafael ar ddwy o’r seddi allai benderfynu hynny…
Mae pethe’n dechre prysuro’n yr Alban wrth i’r canlyniadau ddod yn gyson nawr. O’r seddi allweddol allai benderfynu a fydd yr SNP yn ennill mwyafrif, mae pedwar canlyniad wedi eu cyhoeddi hyd yma. Mae’r SNP wedi cipio dwy a dal eu gafael ar ddwy arall.
— Cemlyn Davies (@Cemlyn) May 7, 2021
Dai Lloyd a’r severance package
Felly, dyna fe, mae cyfnod Dai Lloyd yn y Senedd wedi dod i ben. Mae wedi methu ag ennill Gorllewin Abertawe i’r Blaid ac mi fydd yn dweud hwyl fawr i Fae Caerdydd.
Druan a fe nagefe? Wel, na. Bydd Dai yn olreit!
Dan reolau’r Senedd mae’r AoS rheiny sydd yn sefyll eto yn gymwys i dderbyn ‘grant ailsefydlu’.
Mae hynny’n wir hyd yn oed i’r AoS rheiny – fel Dai – nad yw’n amddiffyn yn union yr un sedd.
Mae wedi methu ag ennill Gorllewin Abertawe, ond sedd rhanbarthol oedd e’n ei chynrychioli Gorllewin De Cymru (doedd e’ ddim ar unrhyw un o’r rhestrau rhanbarthol eleni).
Felly faint bydd Dr Lloyd yn ei dderbyn?
Pan gollodd ei sedd yn 2011 mi dderbyniodd ‘grant ailsefydlu’ £41,815.44. Y tro yma mi fydd yn gymwys i dderbyn £33,912.50 (sy’n gyfystyr â phum mis o dâl).
Felly peidiwch a phoeni am Dai. Bydd e’n iawn!
Leanne Wood â “dagrau yn ei llygaid”
Rhondda:
Gyda'r cyfri ar ei anterth yma, mae ffynhonnell o'r Blaid Lafur yn dweud eu bod nhw "hyd yn oed yn fwy hapus" gyda beth maen nhw'n gweld.Leanne Wood, gyda dagrau yn ei llygaid, yn dweud bod ganddi dim i'w ddweud, ac yn cadarnhau na fydd hi yn gwneud unrhyw gyfweliadau.
— Rhys Williams (@RhysWilliamsBBC) May 7, 2021
Julie James wedi cadw Gorllewin Abertawe i’r Blaid Lafur…
Seimon Brooks yn croesawu llwyddiant Alun Davies ym Mlaenau Gwent a “dull amlbleidiol tuag at faterion cyfansoddiadol” i wladgarwyr…
Huge swing to @AlunDaviesMS in Blaenau Gwent. A key voice on the pro-sovereignty wing of the Labour Party. Welsh patriots who think outside the box and are prepared to consider a multi-party approach to constitutional matters will welcome his re-election.
— Simon Brooks (@Seimon_Brooks_) May 7, 2021
Fel hyn y mae hi’n edrych ar hyn o bryd. Llafur a’r Ceidwadwyr yn cynyddu eu pleidlais yn barchus iawn hyd yma; er, wrth gwrs, yn achos yr ail, ddim digon yn y llefydd cywir.
Bydd y Ceidwadwyr yn gobeithio am berfformiad tebyg yn y rhestri, lle mae nifer y pleidleisiau’n mynd i fod yn bwysig iawn o ystyried eu haflwyddiant cymharol yn yr etholaethau.
Fodd bynnag, os ydi cyfran ddigonol o’u cefnogwyr yn dewis pleidiau eraill fanno – o bosib Plaid Diddymu, Reform neu hyd yn oed UKIP – gallai pethau fod yn anos o lawer.
Y cwestiwn ydi, a fyddai peidio ag ennill etholaethau er mwyn ennill seddi rhestr yn fargen y bydd y sawl sy’n rhedeg blaid yn fodlon arni.
UK (Wales) election:
21/40 constituency (first past the post) declared
LAB-S&D: 37.7% (+5)
CON-ECR: 27.9% (+4.9)
PC-G/EFA: 23.1% (+0.4)
LDEM-RE: 3.8% (-1.5)
REF~NI: 1.7% (+1.7)
AWAP-*: 1.3% (+1.3)
UKIP~ID: 1.1% (-12)+/- vs 2016 election
Live blog: https://t.co/kTbTpMlgM8 pic.twitter.com/zriSHLKdor
— Europe Elects (@EuropeElects) May 7, 2021