Mae Beca Brown wedi ei hethol yn Gynghorydd Sir dros Blaid Cymru ac mi fydd yn cynrychioli pentref Llanrug ar Gyngor Gwynedd, wedi isetholiad gafodd ei gynnal ddoe (Mawrth 25).

Enillodd y brodor o Waunfawr, sydd bellach wedi ymgartrefu gyda’i theulu yn Llanrug gydag, 63% o’r bleidlais, wedi i 681 o bobl droi allan i bleidleisio.

Cafodd yr isetholiad ei alw yn dilyn marwolaeth y ddiweddar gynghorydd, Charles Jones.

Yn dilyn ei hethol, mae Beca Brown wedi dweud ei bod yn fraint cael dilyn yn ôl troed y gwleidydd nodedig, gan addo i wneud ei gorau i gynrychioli trigolion Llanrug.

Y Canlyniad

Pedwar ymgeisydd oedd yn y ras a dyma’r canlyniad:

Beca Brown, Plaid Cymru: 431

Richard Philip Green, Annibynnol: 221

Calum Dafydd Davies, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: 16

Martin Harry Bristow, Annibynnol: 13

Gobeithion gwleidyddol yn parhau

Ymhlith yr ymgeiswyr roedd Richard Phillp Green, ymgeisydd annibynnol a enillodd draean o’r bleidlais.

Bu iddo ymddeol yn ddiweddar o’i swydd yn Uwch Arolygydd gyda Heddlu Gogledd Cymru, wedi iddo weithio fel heddwas am dros 30 mlynedd.

I rai o’r ymgeiswyr eraill, mae eu gobeithion gwleidyddol yn parhau.

Bydd Calum Dafydd Davies yn sefyll yn etholiad y Senedd dros Arfon ym mis Mai ac mae eisoes wedi cynrychioli’r Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiadau San Steffan y llynedd ar gyfer sedd De Clwyd.

Ac mae un arall o’r ymgeiswyr yn y ras am sedd Arfon yn etholiadau’r Senedd – Martin Harry Bristow o’r Felinheli.

“Mi wnaf fy ngorau dros bobl Llanrug”

“Mae hi’n fraint dilyn yn ôl troed y diweddar Gynghorydd Plaid Cymru dros yr ardal, Charles Jones,” meddai Beca Brown yn dilyn ei llwyddiant.

“Dw i’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cydweithio a’m cefnogi yn ystod yr ymgyrch, ac yn gwerthfawrogi pob pleidlais sydd wedi dod i’m rhan. Mi wnaf fy ngorau dros bobl Llanrug gan weithio ar eu rhan i’w cynrychioli hyd orau fy ngallu.

“Hoffwn ddiolch i’r ymgeiswyr eraill am redeg ymgyrch deg a pharchus. Dw i hefyd am dalu gwrogaeth i staff Cyngor Gwynedd am sicrhau etholiad proffesiynol a threfnus iawn dan amgylchiadau anodd pandemig.

“Dw i’n edrych ymlaen at ymuno â chriw Plaid Cymru yng Ngwynedd i gydweithio â’r tîm o gynghorwyr sy’n gweithio ar ran trigolion y sir. Diolch yn fawr iawn.”

“Profiad chwerwfelys”

Yn ôl Cadeirydd Plaid Cymru Gwynedd, Elin Walker-Jones:

“Rydym yn ymfalchïo yn llwyddiant Beca Brown fel cynghorydd newydd dros Lanrug.

“Er mai profiad chwerwfelys sydd gennym yn Llanrug wedi colli gwleidydd triw, bydd Beca yn gaffaeliad i’r ardal.

“Mae ganddi frwdfrydedd heintus, agwedd gadarnhaol a phrofiad helaeth o’r byd gwleidyddol cenedlaetholgar.

“Mae pobl Llanrug wedi rhoi eu hymddiriedaeth ynddi, ac rydym fel grŵp o gynghorwyr Plaid Cymru yn edrych ymlaen at ei chroesawu i’n plith a’i chefnogi yn ei thaith wleidyddol sirol. Llongyfarchiadau mawr!”

Pwy fydd cynghorydd newydd Llanrug?

Mared Roberts

Pwy yw’r pedwar ymgeisydd yn is-etholiad Cyngor Gwynedd dros ward Llanrug