Mae penderfyniad Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, i atal gwirfoddolwyr rhag dosbarthu taflenni ymgyrchu wedi ei ddisgrifio fel “ymosodiad ar ddemocratiaeth” gan y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

Er eu bod yn cydnabod pwysigrwydd dilyn y canllawiau diogelwch ar bob amod, mae’r Blaid yn grediniol bod taflenni ymgyrchu’n hollbwysig er mwyn galluogi’r cyhoeddi i wneud penderfyniadau gwybodus.

Mae Cadan ap Tomos, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion yn yr etholiadau wedi sefydlu deiseb i alw ar Lywodraeth Cymru i newid y drefn.

Er bod disgwyl i etholiad y Senedd gael ei gynnal ar Fai 6, mae yna bryderon y bydd yr argyfwng Covid yn cymhlethu pethau, ac mae Bil ar ei ffordd drwy’r Senedd i ganiatáu oedi os bydd angen.

“Ymosodiad ar ddemocratiaeth”

“Mae hyn yn ymosodiad ar ddemocratiaeth ac yn ymgais glir, bleidiol i atal ymgyrchu etholiadol,” meddai arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds.

“Dim ond yr wythnos diwethaf dywedodd Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Etholiadol ei bod yn ddiogel cynnal etholiadau, ond nawr mae Mark Drakeford yn dweud wrth ymgeiswyr am beidio â dosbarthu taflenni.

“Dylai Mark Drakeford fod yn dilyn y wyddoniaeth ac nid gwleidyddiaeth bleidiol. Os yw hi’n ddiogel i unigolion gael eu talu i ddosbarthu taflenni, yna mae’n ddiogel i wirfoddolwyr wneud yr un peth.

“Mae atal gwirfoddolwyr rhag gwneud hynny yn golygu mai dim ond pleididau mawr ac ymgeiswyr cyfoethog fydd yn gallu ymgyrchu ar raddfa fawr.”

Sicrhau etholiad “teg a rhydd yn bwysig iawn” 

Mewn sgwrs gyda golwg360, dywedodd Cadan ap Tomos bod rhaid sicrhau bod yr etholiad yn ddiogel yn ogystal â theg:

“Mae’r syniad o sicrhau bod unrhyw etholiad yn deg ac yn rhydd yn bwysig iawn,” meddai.

“Rydyn ni’n byw mewn byd mor wahanol ar hyn o bryd ac er gwaethaf hynny, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fwriadu cynnal etholiad y Senedd ym mis Mai.

“Y ddadl yw, os yw hi’n saff i gynnal etholiad, mae’r rhaid sicrhau bod gan bleidiau gwleidyddol ar bob lefel yr un cyfleoedd i ymgyrchu.”

“Ymgais amlwg i gau pleidiau allan o’r broses ddemocrataidd”

Dywedodd bod penderfyniad Mark Drakeford i ganiatáu dosbarthu taflenni drwy’r post ond nid drwy ddwylo gwirfoddolwyr, yn gwbl anghyson.

“Mae’r canllawiau fydden ni’n rhoi mas i’n gwirfoddolwyr ni’r union yr un rhai a fyddai’r bobl sy’n gweithio i’r Post Brenhinol yn ei ddilyn.

“Bydden ni’n cymryd y ddyletswydd o gadw pobl yn sâff o ddifrif.

Teimla Cadan ap Tomos fod gwleidyddion ac ymgyrchwyr, sydd “eisiau chwarae teg yn yr etholiad” wedi cael eu trin yn wahanol i eraill:

“Does dim canllawiau sy’n atal takeaways rhag gwthio bwydlenni drwy’r drws neu unrhyw gwmni sydd eisiau marchnata,” meddai, “maen nhw’n cael gwneud hynny.”

Ychwanegodd ei fod yn teimlo bod y camau hyn yn “ymgais amlwg i gau pleidiau llai allan o’r broses ddemocrataidd.”

“Ysu am gael dosbarthu taflenni”

Mae Ellen ap Gwynn, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion wedi dweud nad yw ymgeiswyr yr etholiad tu hwnt i gyrraedd eu pleidleiswyr:

“Ar y funud, wrth gwrs, mae pethau’n dod drwy’r post,” meddai, “ond rwy’n gwybod fod pobol yn ysu am gael dosbarthu taflenni.

“Dydw i ddim yn credu byddai pobol yn gwerthfawrogi pobol yn cnocio ar eu drysau nhw ar hyn o bryd,” meddai.

“Ond yn bersonol, dydw i ddim yn gweld pam – erbyn diwedd mis Ebrill efallai – na fyddai modd i ni fod allan yn dosbarthu taflenni.”

Papur pleidleisio'n cael ei roi yn y blwch

Etholiad y Senedd: cyflwyno bil a fyddai’n caniatáu gohiriad hyd at chwe mis

Sicrhau etholiad diogel yn “flaenoriaeth” i Lywodraeth Cymru
Papur pleidleisio'n cael ei roi yn y blwch

Bydd etholiad y Senedd yn “heriol iawn” i’w chynnal, medd un o weinidogion Llywodraeth Cymru

‘Bydd her ychwanegol wrth sicrhau ei fod yn cael ei gynnal mewn modd diogel’