Arweinydd UKIP Nigel Farage
Maen nhw’n blaid sydd wedi manteisio ar y system ddemocrataidd, meddai Elisa Haf …

I fod yn hollol glir, does gen i ddim amser ar gyfer UKIP, maent yn blaid sydd yn ffynnu ar un celwydd noeth: eu bod yn wahanol i bleidiau eraill Llundain.

Dydyn nhw ddim: o’r un dosbarth, hil a rhyw y mae eu cynrychiolwyr yn dod – o’r un grŵp â mwyafrif llethol cynrychiolwyr y Torïaid, Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur Newydd.

Yr un buddiannau y maent yn eu cynrychioli, sef buddiannau cyfalaf a’r cyfoethog, gyda chwmnïau o dan ofal Nigel Farage ei hun wedi bod mewn trafferthion am osgoi talu trethi i’r wladwriaeth tra’u bod, wrth gwrs, yn dibynnu ar weithwyr wedi eu haddysgu gan y wladwriaeth, ffyrdd wedi eu cynnal gan y wladwriaeth, a wn i ddim beth arall.

Mae UKIP yn blaid o ragrithwyr ac nid eu hamddiffyn yw fy mwriad yma.

Ond does dim gwerth i ni eu galw’n ffasgwyr, fel y mae amryw o’m cydnabod wedi bod yn gwneud. Byddai hynny eto’n eu gwahaniaethu ar sail hollol ffug oddi wrth weddill pleidiau Llundain.

Mae UKIP yn rhyddfrydwyr yn yr ystyr wleidyddol (nid yr ystyr cymdeithasol sy’n golygu eangfrydig neu feddwl agored).  Hynny yw, maent yn credu mewn democratiaeth ffurfiol ar ffurf rhoi croes mewn blwch unwaith bob rhyw bum mlynedd.

Dydy ffasgwyr ddim hyd yn oed yn credu yn hynny, oni bai fod sicrwydd o ennill. Grym materol, caled yw sail yr hawl i reoli mewn meddylfryd ffasgaidd.

Democratiaeth gyfyng

Dydy dweud nad ydy UKIP yn blaid ffasgaidd ddim yn dweud rhyw lawer o’u plaid, dim ond nad ydw i’n disgwyl gweld eu haelodau yn ffurfio sgwadiau vigilante i grwydro’r strydoedd ac ymosod ar bobol sydd heb fod yn wyn neu sydd i’w gweld yn hoyw. Dyna fyddwn yn disgwyl i bobol fel ‘Britain First’ wneud (mae eu tudalen Facebook yn eu disgrifio fel grŵp vigilante).

Does dim angen i UKIP wneud y fath beth. Mae eu haelodau yn dod o’r fath gefndiroedd breintiedig, mae ganddynt y fath gysylltiadau cyfryngol, mae eu gwedd yn cario’r fath awdurdod traddodiadol, nad oes angen iddynt ddefnyddio grym caled er mwyn ennill eu ffordd.

Gallant ddibynnu y bydd democratiaeth, ar y ffurf gyfyngedig o roi croes mewn blwch bob rhyw bum mlynedd, yn rhoi grym i bobol fel nhw eu hunain, a fydd yn cynrychioli’r un buddiannau â hwy.

Os ydyn ni felly yn gweld bod UKIP yn fygythiad, dylem hefyd weld y fath ffurf gyfyngedig o ddemocratiaeth yn fygythiad, a gofyn sut y gallwn ethol criw mor unffurf o wleidyddion i’n cynrychioli dro ar ôl tro, yn enwedig a hithau’n dod yn fwy a mwy amlwg nad ydynt yn ein cynrychioli.

Pam arall mae pobol mor awchus i gredu celwydd UKIP eu bod yn wahanol?