Llandudno
Mae dyn sydd wedi dioddef llosgiadau 80% i’w gorff ar ôl tân yn ei fflat yn Llandudno ddoe yn dal i fod mewn cyflwr argyfyngus.

Mae bellach wedi ei symud i Ysbyty Whiston ar Lannau Mersi, meddai llefarydd ar ran Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru wrth Golwg360.

Roedd criwiau tan o Landudno, Bae Colwyn a Llanfairfechan wedi mynd i’r fflat uwch ben siop ar Ffordd Augusta, Llandudno, tua dau o’r gloch ddoe – ar ôl derbyn adroddiadau gan gymydog fod mwg yn dod drwy ffenest agored.

Fe ddaeth y gwasanaethau o hyd i’r dyn, sydd yn ei 40au, tu mewn i’r fflat.

Fe gafodd ei gludo i ddechrau i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, cyn ei symud yn ddiweddarach.

Mae’r Gwasanaeth Tân yn parhau i ymchwilio achos y tan.