Heddlu De Cymru
Mae heddlu ym Men-y-bont ar Ogwr yn ymchwilio i ddau ladrad mewn eglwysi lleol dros benwythnos y Pasg, cyfnod prysuraf y calendar Cristnogol.

Fe ddigwyddodd y lladrad cyntaf yn ystod nos Wener pan dorrodd rhywun i mewn i Eglwys St Illtyd yn y dref a dwyn arian.

Fe ddigwyddodd yr ail yn Eglwys St. Mary’s, Coety, nos Sadwrn. Fe gafodd sêff gydag arian parod ei dwyn, yn ogystal â 100 o wyau Pasg.

Mae’r heddlu’n dweud bod y r eglwysi hyn wedi’u targedu o’rblaen yn y gorffennol agos.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y lladradau gysylltu gyda’r Heddlu ar 101 neu drwy Taclo’r Tacle’ ar 0800 555 111.