Fe fu swyddogion tân yn brwydro fflamau yn Nhregarth ger Bethesda neithiwr (nos Sul, Ionawr 23).

Y tân ar safle Iard Pandy. Llun: Chris Owen.

Cawson nhw eu galw i’r digwyddiad ar Iard Pandy am 8:15yh, ac mae’n debyg fod pedair injan dân wedi ymateb.

Roedd trigolion lleol yn adrodd bod y tân wedi effeithio ar felin lifio sydd wedi ei lleoli mewn uned ar yr iard.

Fe wnaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru rybuddio’r cyhoedd i gadw draw o’r lleoliad tra bod swyddogion yn delio â’r fflamau.

Mae’n debyg bod neb wedi cael niwed yn sgil y digwyddiad.

Erbyn bore heddiw (dydd Llun, Ionawr 23), roedd y tân wedi cael ei ddiffodd, ond mae’r adeilad wedi cael ei losgi’n llwyr.

‘Achos y tân o dan ymchwiliad’

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod “criwiau wedi eu galw am 20:15 ddoe (dydd Sul, 23 Ionawr) i iard goed ar Iard Pandy yn Nhregarth.”

“Fe wnaeth dau dîm o Fangor, un tîm o Borthaethwy, un tîm o Lanfairfechan, a’r platfform ysgol awyrol o Fangor fynychu’r digwyddiad.

“Bydd criwiau o Fangor yn mynychu unwaith eto yn hwyrach ymlaen heddiw. Mae achos y tân o dan ymchwiliad.

“Fe wnaeth y tân achosi difrod llawn i’r adeilad a’r cynnwys.”