Mae’r gwasanaethau brys wedi ymateb i wrthdrawiad ar Ffordd Llanberis yng Nghaernarfon.

Fe ofynnodd Heddlu Gogledd Cymru ar gyfryngau cymdeithasol i bobol i gadw draw o ardal cylchfan Ffordd Bethel (B4366) a Ffordd Llanberis (A4086) ger canol y dref, a ffeindio ffyrdd gwahanol i deithio.

Roedd un llygad-dyst yn dweud bod llawer o blant o gwmpas, wrth i ysgolion cyfagos gau tua 15:30, ac roedd presenoldeb heddlu ac ambiwlans awyr yn y digwyddiad.

Does dim gwybodaeth eto os oes unrhyw un wedi eu hanafu.