Mae uwch aelod o staff Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi gadael y gwasanaeth ar ôl cymharu sefyllfa’r di-Gymraeg yng Nghymru ag “apartheid”.

Bu gweithrediadau disgyblu yn erbyn James Moore, sy’n byw yn Llansteffan ond yn dod o Sheffield yn wreiddiol, ar ôl iddo wneud y sylwadau ar Facebook.

Wrth ymateb i stori am gynlluniau i gyflwyno mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg lleol, cymharodd brofiad pobol ddi-Gymraeg yng Nghymru â phrofiad pobol ddu yn Ne Affrica hyd at y 90au.

Mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi cadarnhau wrth nation.cymru nad yw James Moore “yn gweithio iddyn nhw rhagor”, ond dydyn nhw heb ddweud a yw e wedi cael ei ddiswyddo ai pheidio.

Pan wnaeth James Moore y sylwadau, roedd yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol i Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW), corff hyfforddi gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd, ac yn gweithio yno ar secondiad.

Yn fuan ar ôl yr ymateb gwreiddiol i’w sylwadau, gadawodd ei swydd wedi “trafodaethau mewnol” â’i gyn-gyflogwr.

Dychwelodd at ei brif swydd gyda’r Gwasanaeth Ambiwlans, a wnaeth lansio gweithrediadau “disgyblu” yn ei erbyn.

Mae’r disgyblu bellach wedi dod i ben, ac mewn datganiad i nation.cymru, dywedodd Claire Vaughan, Cyfarwyddwyr Gweithredol Datblygiad Gweithlu a Threfnu gyda Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Dydyn ni ddim yn rhoi sylwadau ar brosesau mewnol sy’n gysylltiedig ag unigolion.

“Fodd bynnag, gallaf gadarnhau nad yw James Moore yn gweithio i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru rhagor.”

Cefndir

Yn ei sylwadau, dywedodd James Moore “mai’r Saesneg yw un o anrhegion [export] pwysicaf y Deyrnas Unedig i’r byd” a’i fod yn rhoi “mantais anferthol i ni gyd yn y byd”.

“Mae unrhyw beth sydd yn tanseilio hyn – yn enw cenedlaetholgarwch eithafol [nationalist zealotry] – yn ein niweidio ni i gyd.

“Dychmygwch pe baech yn newid y gair Saesneg i ‘du’ neu (fel y drefn yn Ne Affrica yn hanesyddol) ‘o liw’… efallai dylai’r di-Gymraeg ddefnyddio bysys gwahanol? Ffynhonnau dŵr gwahanol o bosib?

“Yn debyg i De Affrica lle’r oedd y cwynion yn lleiafrif bychan, mae’n bryd i’r 80% di-Gymraeg wrthwynebu’r gormeswyr a rhoi stop ar yr apartheid sy’n mynd rhagddo.”

Dywedodd wedyn bod dwyieithogrwydd “yn grêt mewn sawl rhan o’r byd”, ond bod agweddau “cibddall” yn golygu bod Cymru’n methu ar lefel ryngwladol.

Sylw ‘apartheid’ y di-Gymraeg yn “gwbl annerbyniol”, medd Gweinidog y Gymraeg

Swyddog iechyd wedi galw am “wrthwynebu’r gormeswyr” (hynny yw, y Cymry Cymraeg)