Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dyfed Powys eisiau clywed barn pobol yr ardal am yr heddlu, fel rhan o’r broses o ffurfio Cynllun Plismona newydd.

Dywed Dafydd Llywelyn ei fod eisiau clywed gan fusnesau, grwpiau cymunedol, sefydliadau partner, a dioddefwyr troseddau er mwyn cael gwell dealltwriaeth o safbwyntiau ar flaenoriaethau a phryderon pobol.

Bydd hyn yn helpu i ffurfio asgwrn cefn y Cynllun Heddlu a Throsedd newydd ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys.

Dechreuodd Dafydd Llywelyn ymgynghori ar ei gynllun newydd ar gyfer yr ardal ym mis Mai, trwy gynnal sesiynau grŵp ffocws.

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i bob Comisiynydd gynhyrchu Cynllun Heddlu a Throsedd sy’n nodi blaenoriaethau fydd yn sail ar gyfer sut maen nhw’n dwyn y Prif Gwnstabl a’r heddlu i gyfrif.

Heddiw (dydd Gwener, 11 Mehefin), agorodd yr ymgynghoriad i’r cyhoedd yn ehangach.

“Ymgynghoriad hanfodol”

Bydd y cynllun hwn yn gosod y cyfeiriad ar gyfer plismona a diogelwch cymunedol dros dymor swydd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys.

Bydd yn galw am farn a thystiolaeth ar themâu megis:

  • Cefnogaeth i ddioddefwyr.
  • Hygyrchedd Gwasanaeth yr Heddlu.
  • Gweithgareddau Atal Troseddu.
  • Cyfiawnder.
  • Llesiant yn y Dyfodol.

“Mae pobol Dyfed-Powys wrth galon popeth rwy’n ei wneud fel Comisiynydd,” meddai Dafydd Llywelyn.

“Wrth imi edrych ymlaen at ddatblygu fy Nghynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer y tair blynedd nesaf, mae’n bwysig imi ddeall eich barn ar blismona yn yr ardal.

“Mae hwn yn ymgynghoriad hanfodol a gobeithio y gall cymaint o bobl â phosibl ymateb – bydd eich mewnbwn yn mynd yn bell o ran llywio blaenoriaethau fy Nghynllun Heddlu a Throsedd”.