Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynghori pobol yng Ngheredigion i fod ar eu gwyliadwriaeth er mwyn osgoi twyll masnachol.

Rhan amlaf, bydd masnachwyr twyllodrus yn targedu’r bobol fwyaf agored i niwed drwy orbrisio gwaith diangen a’u twyllo i drosglwyddo symiau enfawr o arian yn ddiangen.

Mae timau plismona lleol yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am ddigwyddiadau tebyg i gysylltu â nhw.

“Mae masnachwyr twyllodrus, galwyr ffug a byrgleriaid sy’n tynnu sylw pobol yn cael effaith ddinistriol ar fywydau, ac yn aml yn targedu’r bobol fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas,” meddai’r DS Allan Rees.

“Rydym yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o hyn er mwyn helpu pobol i osgoi dioddef yn ddiangen.

“Mae’r bobol yma yn gweithredu mewn gangiau ac yn galw yng nghartrefi pobol i gynnig amrywiaeth o wasanaethau.

“Gall y rhain gynnwys pethau fel garddio, adeiladu cyffredinol, gwaith tarmac a hyd yn oed clirio mwswg oddi ar doeau.

“Yn fwy diweddar, rydym wedi clywed am bobol yn ceisio prynu cerbydau am brisiau is.

“Yn aml, mae’r bobol yma yn defnyddio tactegau gwerthu soffistigedig iawn i berswadio pobol i drosglwyddo arian – peidiwch byth â bod o dan bwysau i dalu am nwyddau a gwasanaethau a cheisio cyngor bob amser gan rywun rydych chi’n ymddiried ynddo.

“Os ydych chi’n teimlo dan bwysau am unrhyw reswm, gofynnwch i’r person adael.”

Mae’r heddlu yn atgoffa pobol i feddwl cyn ateb y drws, ac i gadw at y canllawiau canlynol:

  • Os nad ydych yn siŵr, peidiwch â gadael y person i fewn i’ch cartref
  • Peidiwch ag arwyddo yn y fan a’r lle
  • Gofynnwch am gerdyn adnabod bob amser
  • Peidiwch â chael eich twyllo gan dechnegau gwerthu
  • Chwiliwch am y pris gorau
  • Siaradwch â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo am ail farn
  • Dylech osgoi trosglwyddo arian cyn i’r gwaith ddechrau
  • Meddyliwch yn ofalus cyn cytuno bod rhywun yn dechrau unrhyw waith
  • Credwch yn eich greddf – os yw’n swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod!
  • Ac yn olaf … mae’n iawn dweud na