Mae’r heddlu’n ymchwilio i anrhefn wrth i nifer fawr o gefnogwyr Lerpwl ddathlu ennill Uwchgynghrair Lloegr.

Maen nhw wedi rhyddhau lluniau o’r bobol y maen nhw’n awyddus i siarad â nhw.

Dywed yr heddlu bod nifer o droseddau, gan gynnwys ymosod, difrod, a throseddau cyffuriau wedi digwydd wrth i bobol ymgynnull yn y ddinas ar Fehefin 26.

Mae’r lluniau’n dangos amryw bobol yn ardal Stryd Fictoria am oddeutu 2:30 y bore ar ddydd Sadwrn (Mehefin 27).

“Rydym yn chwilio am leiafrif o bobol oedd y benderfynol o droseddu ac ymddwyn yn anghymdeithasol,” meddai Ditectif Prif Arolygydd Cheryl Rhodes.

“Rydym yn falch bod cymunedau Glannau Merswy wedi dod ynghyd i gondemnio’r gweithredoedd hyn a darparu gwybodaeth.

“Diolchaf i’r holl bobol hynny, byddwn yn sicr o adolygu popeth sy’n dod i mewn.”