Ben Thompson
Mae Heddlu’r De wedi diolch i’r cyhoedd wrth i’r chwilio am Ben Thompson o Hwlffordd barhau.

Roedd Ben Thompson yng nghanol dinas Caerdydd ddydd Sadwrn ar gyfer y gêm rygbi rhwng Cymru ac Iwerddon.  Roedd gyda ffrindiau am 6.30yh yn ardal Mill Lane, ond does neb wedi ei weld ers hynny.

Cafodd ei weld ar gamera cylch-cyfyng am 7.15yh nos Sadwrn yn croesi Ffordd Lecwydd i Rodfa Lawrenny.

Mae timau o hyd at 50 o swyddogion yr heddlu’n parhau i chwilio amdano mewn coetir ger afon Elai, ac mae hofrennydd yr heddlu wedi bod yn cynorthwyo yn y chwilio.

Dywedodd yr Uwch Arolygydd Eddie Ough: “Rydym wedi cael ymateb positif yn dilyn yr apêl drwy’r wasg ddoe a hoffem ddiolch i’r rhai sydd wedi ein ffonio ni.

“Mae’r wybodaeth wnaethon nhw ei rhoi i ni yn cadarnhau ein bod ni’n chwilio yn y lle iawn.”

Mae teulu Ben Thompson wedi bod yn dosbarthu taflenni a phosteri yn y gymuned, ac yn siarad â chymdogion. Ddoe, roedd ei wraig Jo Thompson wedi gwneud apel emosiynol am wybodaeth amdano.

Mae Ben Thompson yn 5’9” o daldra, gyda gwallt brown byr a llygaid glas.  Roedd yn gwisgo esgidiau brown, jîns glas a chrys wen gyda streipiau glas.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r De ym Mae Caerdydd ar 02920 338 465.