Mae nifer y cwmnïau sydd wedi gorfod dod â’r gweinyddwyr i mewn i geisio achub eu busnes wedi cynyddu yng Nghymru a Lloegr.

Yn nhri mis olaf 2012, roedd yn rhaid i 580 o gwmnïau alw ar weinyddwyr, cynnydd o 6% ar y tri mis blaenorol, ac mae cwmnïau fel HMV, Jessops a Blockbuster yn debyg o barhau’r cynnydd yn 2013.

O’r 4,841 cwmni a aeth i ofal gweinyddwyr ar ddiwedd 2012, roedd rhaid diddymu 3,834 ohonynt oherwydd methdaliad.  Llwyddodd y gweddill i sicrhau cytundeb i ddal ati i fasnachu.

Dywedodd Mike Jarvis, o weinyddwyr Pricewaterhouse Coopers:

“Mae achosion o weinyddiaeth wedi codi o 6% ac mae mis Ionawr wedi arwain at nifer o gwmnïau adnabyddus yn cau.  Mae rheolwyr nawr yn canolbwyntio fwy ar arian parod, costau a goroesiad na mewn adegau blaenorol.”

Ychwanegodd James Money, o weinyddwyr PKF, ei fod yn annhebygol gweld gwelliant yn y sefyllfa yn nechrau 2013.

“Fel rydyn ni wedi gweld yn wythnosau cyntaf y flwyddyn, mae strydoedd siopa’r wlad yn cael amser caled iawn, ac mae’r sector adeiladu dan bwysau hefyd.  Rydyn ni hefyd yn dechrau gweld mwy o gwmniau yn methu goroesi yn y sectorau gwasanaeth proffesiynol ac ariannol.”