Dafydd Iwan
Mae Dafydd Iwan wedi dweud fod y Gymraeg wedi dal ei thir yn well yng Ngwynedd nag yn y de am fod yr awdurdod lleol yn gweithredu drwy gyfrwng yr iaith.

Mae canlyniadau Cyfrifiad 2011 ar gyfer y wardiau lleol yn dangos bod y Gymraeg yn colli tir ym mröydd y glo carreg yn nwyrain Sir Gaerfyrddin a gorllewin Morgannwg, ond dal yn gryf yng Ngwynedd.

Yn 2001 roedd gan Wynedd 42 ward o 71 ble roedd dros 70% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, ac yn 2011 roedd yno dal 41 ward gyda dros 70%. Nid oes bellach yr un ward yn ne Cymru gyda dros 70% o siaradwyr Cymraeg.

“Mae’r ffaith fod y cyngor sir yn gweithredu’n Gymraeg wedi rhoi statws i’r iaith yng Ngwynedd,” meddai Dafydd Iwan, sy’n un o gyfarwyddwyr cwmni Sain ac yn gyn-gynghorydd lleol.

“Mae’n rhoi gwerth economaidd i’r Gymraeg ac mae pobol ifanc yn gweld gwerth yn ei siarad hi o achos hynny.

“Mae hi hefyd yn iaith sy’n cael ei siarad gan bob haen o fewn cymdeithas.

“Mewn ardaloedd fel Sir Gaerfyrddin nid oes arweiniad gan y cyngor sir ac mae peryg iddi droi’n iaith ar gyfer rhai haenau o gymdeithas yn unig,” meddai.

Ond mae Dafydd Iwan am rybuddio rhag siarad yn rhy negyddol am ddyfodol y Gymraeg.

“Rhaid inni beidio digalonni a chysylltu’r Gymraeg gydag argyfwng drwy’r amser achos gwnaiff pobol ifanc ddim trafferthu i siarad iaith sy’n marw,” meddai.

Canrannau’n cwympo yn y de

Mae dirywiad trawiadol wedi bod mewn rhai pentrefi a fu gynt yn gadarnle sicr i’r Gymraeg.

Yn nhref Rhydaman, ble roedd 70% yn siarad Cymraeg yn 1991, bellach 49.9% sy’n ei siarad hi, ac nid oes yr un gymuned yn Sir Gaerfyrddin ble mae dros 70% yn siarad Cymraeg.

Yn sir Castell Nedd Port Talbot, sef ffin ddwyreiniol y bröydd Cymraeg bellach, mae gostyngiad amlwg wedi bod yng nghanrannau’r siaradwyr Cymraeg.

Yn 1991 roedd 79% o bobol Gwaun-Cae-Gurwen yn siarad yr iaith ond ddoe daeth i’r amlwg fod y ganran yno wedi disgyn i 55.8% mewn ugain mlynedd.

Yn Ystalyfera, sy’n gartref i ysgol gyfun Gymraeg, mae canran y siaradwyr Cymraeg wedi cwympo o 66.7% yn 1991 i 46% yn 2011.

Ym mhentref cyfagos Ystradgynlais mae’r ganran wedi disgyn o 60% yn 1991 i 39.9% yn 2011.

Nid yr hen ardaloedd diwydiannol yn ne Cymru yn unig sydd wedi gweld dirywiad. Yn Llanegwad yn nyffryn Tywi mae’r ganran o siaradwyr Cymraeg wedi disgyn o 66% yn 2001 i 53.5% yn 2011.

Yn Sir Benfro, mae canran y siaradwyr Cymraeg yn Solfach, pentref brodorol y canwr Meic Stevens, wedi disgyn o 50.9% yn 1991 i 24.4% yn 2011.

Un ward yn ne Cymru sydd wedi gweld twf yw Treganna yng ngorllewin Caerdydd. 8% oedd yn siarad Cymraeg yno yn 1991 ond bellach mae 19.1% yn siarad Cymraeg yno, diolch yn rhannol i fudo o’r bröydd Cymraeg traddodiadol yn y gorllewin.