Mae Aelod Seneddol wedi galw ar Lywodraeth Prydain i weithredu yn gynt yn erbyn firws Schmallenberg, wedi i’r clefyd gyrraedd Cymru ym mis Medi y llynedd.

Galwodd Glyn Davies, AS Ceidwadol Sir Drefaldwyn, am gyflymu’r cynhyrchiad o frechiad i’r clefyd, er mwyn lleihau effaith y firws ar ffermwyr Prydain.  Honnodd bod y firws wedi cyrraedd Prydain ar amser caled i amaethwyr.

“Mae’r difrod sy’n cael ei achosi gan firws Schmallenberg yn parhau i gynyddu, ac mae’n dod ar adeg anodd  iawn i’r diwydiant amaethyddol, gyda thywydd anffafriol a chostau uchel.”

“Nid oes dyddiad penodol ar gyfer rhyddhau brechiad, ond mae’r Llywodraeth wedi sicrhau bod cwmnïau fferyllol yn y broses o ddatblygu un.  Ni all ddod yn ddigon buan,” meddai Glyn Davies.

Mae firws Schmallenberg  yn effeithio defaid, gwartheg a geifr.

Mae Schmallenberg yn achosi anffurfio a namau ar wyn a lloeau, a gall yr effaith ar ffermwyr Cymru dros y cyfnod wyna fod yn ddifrifol.  Roedd 21 o achosion wedi eu cadarnhau yng Nghymru hyd at wythnos ddiwethaf, ond mae pryder bod y nifer yna yn llawer uwch mewn gwirionedd.

“Dylai amaethwyr sy’n gweld effaith Schmallenberg ar eu hanifeiliaid gysylltu gyda’i milfeddygon.  Mae’n bwysig bod y Llywodraeth yn gwybod gwir raddfa’r niwed mae’r clefyd yma yn ei achosi,” meddai Davies.

Er bod y firws yn cael effaith niweidiol ar anifeiliaid, nid oes perygl i bobol.