Y tywydd sydd wedi cael y prif fai am fod llai o ddefaid, gwartheg a moch wedi cael eu lladd yng Nghymru’r llynedd.

Yn ôl ffigurau sydd wedi cael eu rhyddhau gan Hybu Cig Cymru roedd cwymp o 350,000 yn  nifer yr ŵyn gafodd eu lladd y llynedd yng Nghymru o gymharu gyda 2011. Roedd 9% yn llai o ŵyn wedi eu lladd, ond gan eu  bod nhw’n llai o faint nag yn 2011 roedd gostyngiad o 11% yn y cig.

Bu cwymp bychan hefyd yn nifer y gwartheg a’r moch gafodd eu prosesu yn lladd-dai Cymru.

“Y tywydd oedd y prif factor am y cwymp,” meddai John Richards o Hybu Cig Cymru.

“Gwnaeth glaw’r haf hi’n anodd prosesu’r ŵyn, ac roedd y rheiny gafodd eu prosesu yn ysgafnach.”

Roedd y cwymp yng Nghymru yn fwy na’r gostyngiad o 4% ar gyfer lladd ŵyn trwy gydol y Deyrnas Unedig.

Mae 2013 yn edrych yn fwy gobeithiol, medd John Richards, gan fod y ffigurau’n awgrymu y bydd mwy o ŵyn na’r llynedd ar werth ym mhedwar mis cyntaf eleni.

Ond mae yna bryder am ddyfodol un o brif ladd-dai ŵyn Cymru.

Mae perchnogion Welsh Country Foods, sy’n cyflogi 350 o bobol yn y Gaerwen ar Ynys Môn ac sy’n prosesu 640,000 o ŵyn bob blwyddyn, wedi dweud y bydd y lladd-dy’n cau os na ddaw prynwr.