Jonathan Edwards
Ar y diwrnod mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi cynlluniau pellach ar gyfer rhwydwaith reilffordd gyflym iawn yn Lloegr mae Plaid Cymru wedi rhybuddio na ddylai Cymru dalu am brosiectau sydd ar gyfer Lloegr yn unig.

Mae HS2 yn fuddsoddiad £33 biliwn a fydd yn cysylltu Llundain, Birmingham, Manceinion a Leeds.

Mae llefarydd trafnidiaeth Plaid Cymru yn San Steffan, Jonathan Edwards AS, wedi mynegi pryder am ddiffyg buddsoddi yng nghysylltiadau trafnidiaeth Cymru, a dywedodd fod gan Gymru hawl i £1.9bn fel rhan o’r prosiect HS2 diolch i drefniant Barnett.

“Bydd pobol Cymru’n talu pris mawr am welliannau i wasanaethau yn Lloegr,” meddai Jonathan Edwards.

“Mae’n wir fod posib y bydd y gwasanaeth i deithwyr gogledd Cymru’n gwella ychydig, ond ffolineb llwyr yw ceisio portreadu’r cynllun hwn fel un i Brydain gyfan.

“Er mwyn i fformiwla Barnett weithredu’n gywir, rhaid i brosiectau Lloegr-yn-unig arwain at daliad ôl-ddilynol i’r grant bloc Cymreig. Golyga hyn fod cyfran Cymru o’r gwariant HS2 tua £1.9bn.

“Byddai’r math hwn o fuddsoddiad yn trawsnewid strwythur trafnidiaeth Cymru. Byddai’r £1.9bn yn sicrhau gwelliannau mewn gwasanaethau rheilffordd ledled Cymru yn ogystal â chreu swyddi yn ein cymunedau.”

‘Lledaenu cyfoeth’

Mae David Cameron wedi dweud y bydd HS2, a fydd fod yn barod yn ei gyfanrwydd erbyn 2033, yn creu 100,000 o swyddi ac yn “lledaenu cyfoeth a ffyniant ar draws y wlad.”

Ond mae Jonathan Edwards yn dweud y gallai HS2 gael effaith negyddol ar economi de Cymru drwy ei gwneud hi’n llai cystadleuol o gymharu â Chanolbarth a Gogledd Lloegr.