Ysbyty cymunedol Blaenau Ffestiniog
Mae tri o gynghorwyr Conwy yn cyflwyno cais heddiw yn galw am bleidlais o ddiffyg hyder yn erbyn  rheolwyr y Gwasanaeth Iechyd yng ngogledd Cymru.

Bydd y cynnig yn cael ei gyflwyno yn erbyn rheolwyr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi iddyn nhw benderfynu cau pedwar o ysbytai cymunedol ym Mlaenau Ffestiniog, Llangollen, Y Fflint a Phrestatyn a symud gwasanaethau gofal dwys i  fabis newydd o Ysbytai Glan Clwyd a Maelor Wrecsam i Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri.

Mae’r bwrdd iechyd wedi dweud mai rhesymau ariannol a phoblogaeth oedrannus sydd y tu ôl i’r penderfyniadau.

Ond mae’r cynghorwyr o Fae Colwyn – Cheryl Carlisle (Ceidwadwyr), Brian Cossey (Dem Rhydd) a Phil Edwards (Plaid Cymru) wedi penderfynu dangos eu gwrthwynebiad.

Maen nhw’n galw ar gynghorwyr eraill i ddwyn pwysau ar y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths i ymyrryd yn y broses o ad-drefnu’r bwrdd iechyd.

Mae nifer o Aelodau’r Cynulliad eisoes wedi gwneud yr un fath.

Blaenau Ffestiniog

Bydd  cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal ym Mlaenau Ffestiniog heno i drafod y penderfyniad i gau’r ysbyty cymunedol.

Mae’r cynghorydd lleol, Mandy Williams-Davies wedi dweud wrth Golwg360 ei bod hi’n pryderu am oblygiadau ariannol y cynlluniau.

Dywedodd: “Fel dwi’n deall, mae modd i gynghorwyr herio’r drefn gyfreithiol, ond nid y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan y bwrdd iechyd.

“Does dim digon o sicrwydd am wasanaethau amgen yn dilyn y toriadau. Mae rhai cwestiynau sydd heb gael eu hateb eto. Be fydd yn cymryd ei le?

“Mae unrhyw gynllun busnes yn cymryd blynyddoedd i’w lunio, ond mae gwlau yn mynd yn yr ysbytai yn yr wythnosau nesaf”.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yng Nghylch yr Efail yn adeilad cwmni Seren am 6.30pm.

Y cynghorydd Geraint Vaughan Jones sy’n cadeirio.